Gaeafau blaenorol
Gaeafau yn y gorffennol
Cyflwynwyd Taliadau Tanwydd Gaeaf o aeaf 1997/98 ymlaen. Nid oes unrhyw derfynau amser ar gyfer hawlio am y blynyddoedd 1997/98 i 1999/2000. O 2000/01 cyflwynwyd terfynau amser ar gyfer hawliadau. Golyga hyn na ellir gwneud taliadau ar gyfer hawliadau hwyr ar gyfer y blynyddoedd 2000/01 i 2007/08. Roedd yn rhaid hawlio ar gyfer y blynyddoedd hyn erbyn 30 Mawrth ar gyfer y gaeaf perthnasol, er enghraifft, roedd yn rhaid hawlio ar gyfer gaeaf 2007/08 erbyn 30 Mawrth 2008.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ar gyfer gaeafau 1997/98, 1998/99 a 1999/2000, mae swm y taliad i’w weld yn y tabl isod.
| Gaeaf | Wythnos gymhwyso | Os mai chi yw’r unig un yn y cartref sy’n gymwys | Os oes mwy nag un person yn y cartref sy’n gymwys |
|---|---|---|---|
| 1997/98 | 5 i 11 Ionawr 1998 | £20 | £10 ar gyfer pob person |
| 1998/99 | 9 i 15 Tachwedd 1998 | £20 | £10 ar gyfer pob person |
| 1999/2000 | 20 i 26 Medi 1999 | £100 | £50 ar gyfer pob person |
Os na chawsoch Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer unrhyw rai o’r gaeafau blaenorol yma a chithau’n credu y gallech chi fod yn gymwys i gael taliad, dylech chi ffonio’r Llinell Gymorth Taliad Tanwydd Gaeaf a gofyn am ffurflen gais ar gyfer y gaeafau blaenorol yma neu lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer gaeafau blaenorol o’r wefan yma


