Taliadau Tanwydd Gaeaf

Cyflwyniad

Beth yw Taliad Tanwydd Gaeaf?

Bydd y Llywodraeth eto yn gwneud Taliadau Tanwydd Gaeaf i ran fwyaf o bobl 60 oed neu ‘n hyn am aeaf 2008/09

Taliad blynyddol i bobl 60 oed neu’n hyn i helpu â’r costau o gadw’n gynnes y gaeaf hwn yw Taliad Tanwydd Gaeaf.

Os ydych chi rhwng 60 a 79 oed a chithau â hawl i gael Taliad Tanwydd Gaeaf, y flwyddyn hon byddwch chi naill ai’n cael £125 neu £250 gan ddibynnu ar eich amgylchiadau yn ystod yr wythnos gymhwyso (15 i 21 Medi 2008)

Os ydych chi’n 80 oed neu’n hyn a chithau â hawl i gael Taliad Tanwydd Gaeaf y flwyddyn hon byddwch naill ai’n cael £200 neu £400, yn dibynnu ar eich amgylchiadau yn ystod yr wythnos gymhwyso.

Ni fyddwch chi’n talu treth ar daliadau Tanwydd Gaeaf.

Os oes angen i chi wneud cais am daliad ar gyfer gaeaf 2008/09, dylech ddychwelyd eich ffurflen gais ar neu cyn 30 Mawrth 2009

Yn unol â newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched, mae’r flwyddyn gymhwyso ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf yn codi’n raddol o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Mae hyn yn golygu o aeaf 2010/11 ymlaen, bydd dynion a merched angen cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth merched erbyn yr wythnos gymhwyso yn niwedd mis Medi.