Llinell Gymorth
Gallwch chi ffonio’r Llinell Gymorth Taliad Tanwydd Gaeaf os oes angen i chi:
- mwy o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf:
- rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau; neu
- cael ffurflen gais ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf (am aeafau yn y gorffennol). Gellwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais o'r wefan hon
Mae’r Llinell Gymorth Taliad Tanwydd Gaeaf ar 08459 15 15 15 (0845 601 5613 ar gyfer defnyddwyr ffôn testun). Mae’r llinellau ar agor o 8.30am i 4.30pm, o ddydd Llun i Ddydd Gwener. Codir yr un cyfraddau â galwadau lleol am y galwadau yma. Efallai y byddwn ni’n monitro’ch galwad i wirio ansawdd y gwasanaeth y byddwch chi’n ei dderbyn.
Cofiwch, os ydych chi’n derbyn Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall yn hytrach na Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant, dylech chi gysylltu yn gyntaf â’r swyddfa sy’n delio â chi fel arfer.
Cysylltu â ni drwy e-bost
Os oes gennych chi ymholiad neu gwyn, gallwch chi hefyd gysylltu â’r llinell gymorth drwy e-bost gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Sylwch: Nid yw hwn yn llwybr diogel i anfon gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi preifatrwydd
Nodwch rif ffôn lle gallwn ni eich cyrraedd rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ifel y gallwn ymateb i’ch ymholiad.
Ffynonellau gwybodaeth eraill
Gallwch chi gael mwy o gyngor neu help â’ch cwestiynau ynglyn â Thaliadau Tanwydd Gaeaf o’ch canolfan pensiynau, swyddfa Canolfan Byd Gwaith, Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol.
Cewch wybod rhagor drwy lawrlwytho Eich Canllaw i Daliadau Tanwydd Gaeaf [WFPL1W]
Efallai y gall sefydliadau eraill, megis eich canolfan Age Concern neu Cyngor ar Bopeth leol, eich helpu.


