Pwy sy'n cael eu heffeithio?
Merched a anwyd ar 6 Hydref 1942 neu rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Gorffennaf 1950
Bydd merched a anwyd ar 6 Hydref 1942 neu rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Gorffennaf 1950 bellach yn gallu trosglwyddo uchafswm o 60% i 90% o'u pensiwn SERPS i'w gwr. Bydd hyn yn cael ei ostwng yn raddol fel a ganlyn:
Merched a anwyd ar 6 Hydref 1952 neu rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Hydref 1944
Bydd gan eich gwr hawl i etifeddu uchafswm o 90% o'ch hawliad SERPS.
Merched a anwyd ar 6 Hydref 1944 neu rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Hydref 1946
Bydd gan eich gwr hawl i etifeddu uchafswm o 80% i'ch hawliad SERPS.
Merched a anwyd ar 6 Hydref 1946 neu rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Hydref 1948
Bydd gan eich gwr hawl i etifeddu uchafswm o 70% o'ch hawliad SERPS.
Merched a anwyd ar 6 Hydref 1948 neu rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Gorffennaf 1950
Bydd gan eich gwr hawl i etifeddu uchafswm o 60% o'ch hawliad SERPS.
Cewch wybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych wedi'i ennill hyd yn hyn, a faint rydym yn disgwyl y bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth drwy ofyn am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y rhagolwg yn cynnwys eich pensiwn SERPS.
Gallwch ddarllen neu argraffu ffurflen gais rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth o'r wefan hon neu gallwch ffonio Tîm Rhagolygu Pensiwn y Wladwriaeth ar 0845 3000 168 a byddant yn llenwi'r ffurflen gyda chi dros y ffôn. Mae'r llinellau ar agor o 8.00am i 8.00pm a chodir cyfraddau lleol ar bob galwad.
Gallwch hefyd ysgrifennu atynt a gofyn am ffurflen gais yn:
State Pension forecasting team
Future Pension Centre
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
Etifeddu SERPS
Gallwch gael gwybodaeth ychwanegol am etifeddu SERPS drwy ddarllen neu argraffu ein canllaw
Agosáu at ymddeol
Os ydych yn agosáu at ymddeol gall gwefan Y Gwasanaeth Pensiwn ddweud wrthych am eich Pensiwn y Wladwriaeth a sut y dylech wneud cais amdano. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am adolygu eich arian, ac am gymorth ychwanegol gan y llywodraeth y gallech ei gael os bydd ei angen arnoch.


