Pensiwn y Wladwriaeth

Pwy sy'n cael eu heffeithio?

Dynion neu bartneriaid sifil a anwyd ar 6 Hydref 1937 neu rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Hydref 1945

Bydd dynion neu bartneriaid sifil a anwyd ar 6 Hydref 1937 a rhwng y dyddiad hwnnw a 5 Hydref 1945 bellach yn gallu trosglwyddo uchafswm o 60% i 90% o'u pensiwn SERPS i'w gwraig neu bartneriaid sifil. Caiff hwn ei gyflwyno'n raddol fel a ganlyn:

Dynion neu bartneriaid sifil a anwyd rhwng 6 Hydref 1937 a 5 Hydref 1939
Bydd gan eich gwraig neu bartner sifil hawl i etifeddu uchafswm o 90% o'ch hawliad SERPS.

Dynion neu bartneriaid sifil a anwyd rhwng 6 Hydref 1939 a 5 Hydref 1941
Bydd gan eich gwraig neu bartner sifil hawl i etifeddu uchafswm o 80% o'ch hawliad SERPS.

Dynion neu bartneriaid sifil a anwyd rhwng 6 Hydref 1941 a 5 Hydref 1943
Bydd gan eich gwraig neu bartner sifil hawl i etifeddu uchafswm o 70% o'ch hawliad SERPS.

Dynion neu bartneriaid sifil a anwyd rhwng 6 Hydref 1943 a 5 Hydref 1945
Bydd gan eich gwraig neu bartner sifil hawl i etifeddu uchafswm o 60% o'ch hawliad SERPS.

Cewch wybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych wedi'i ennill hyd yn hyn, a faint rydym yn disgwyl y bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth drwy ofyn am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y rhagolwg yn cynnwys eich pensiwn SERPS.

Gallwch ddarllen neu argraffu ffurflen gais rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth o'r wefan hon, neu gallwch ffonio Tîm Rhagolygu Pensiwn y Wladwriaeth ar 0845 3000 168 a byddant yn llenwi'r ffurflen gyda chi dros y ffôn. Mae'r llinellau ar agor o 8am i 8pm a chodir cyfraddau lleol ar bob galwad.

Gallwch hefyd ysgrifennu atynt a gofyn am ffurflen gais yn:

State Pension forecasting team
Future Pension Centre
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA

Etifeddu SERPS

Gallwch gael gwybodaeth ychwanegol am etifeddu SERPS drwy ddarllen neu argraffu ein canllaw

Agosáu at ymddeol

Os ydych yn agosáu at ymddeol gall gwefan Y Gwasanaeth Pensiwn ddweud wrthych am eich Pensiwn y Wladwriaeth a sut y dylech wneud cais amdano. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am adolygu eich arian, ac am gymorth ychwanegol gan y llywodraeth y gallech ei gael os bydd ei angen arnoch.