Pensiwn y Wladwriaeth

Sut ydw i'n gwneud cais?

Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein

Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

A allaf gael rhagolwg?

Sut i wneud cais am ragolwg

Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth Logo e-wasanaeth

Mae pedair ffordd i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth:

  • argraffu ffurflen gais a'i phostio
  • ffoniwch Canolfan Pensiwn y Dyfodol ar 0845 300 0168 a byddant yn llenwi'r ffurflen gyda chi dros y ffôn; mae llinellau ar agor o 8.00am i 8.00pm dydd Llun i ddydd Gwener a 9.00am i 1.00pm ar ddydd Sadwrn; codi'r cyfraddau lleol ar alwadau; gall galwadau o ffonau symudol neu rhwydweithiau cebl amrywio. Os oes gennych anhawsterau clyw neu lleferydd ac mae gennych ffôn testun, ffoniwch ffôn testun 0845 3000 169
  • ysgrifennwch i Canolfan Pensiwn y Dyfodol a gofyn am ffurflen gais rhagolwg (BR19 W) ac amlen ddychwelyd

    Future Pension Centre
    The Pension Service
    Tyneview Park
    Whitley Road
    Newcastle upon Tyne
    NE98 1BA

Bydd yn cymryd tua 12 diwrnod gwaith i ddarparu eich rhagolwg o'r dyddiad y derbynnir eich ffurflen gais.

Mae'r ffurflen gais rhagolwg ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Os nad ydych yn siarad Cymraeg neu Saesneg gallwn drefnu cael cyfieithydd,drwy wasanaeth ffôn cyfieithu Y Gwasanaeth Pensiwn, sydd ar gael yn syth.

Mae'n bwysig ein bod ni yn sicr o'ch hunaniaeth pan rydych yn gwneud cais. Efallai bydd yn rhaid i ni ofyn i chi am eich cefndir ac edrych ar unrhyw ddogfennau swyddogol sydd gennych i gefnogi y wybodaeth rydych yn ei roi. Gallwch gael eich rhagolwg wedi'i anfon atoch chi neu rhywun arall.

Defnyddiwch ein cyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth I gael gwybod pa bryd fydd gennych hawl I wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Cewch wybod sut efallai bydd newidiadau yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Future Pension Centre