Cwestiynau a ofynir yn aml
- Peth yw Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol?
- Beth ydych yn feddwl drwy 'eithro allan'?
- Nid wyf wedi eithro allan erioed, felly pam fod didiyniad eithro allan ar fy rhagolwg?
- Beth yw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref?
- Pa Bensiwn y Wladwriaeth mae fy mhriod neu bartner sifil â hawl iddo?
- Rwyf wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd is. A ydyw’r rhain yn cyfrif tuag fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
- Pam wyf yn talu'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd is?
- Roeddwn yn y brifysgol tan oeddwn yn 22. A ydwyf yn cael credydau tuag at fy Mhensiwn y Wladwriaeth am y blynyddoedd hyn?
- A ydych wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw gyfraniadau rwyf wedi eu talu tra roeddwn yn gweithio dramor?
- A allaf roi'r gorau i dalu Yswiriant Gwladol unwaith mae gennyf ddigon o flynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn?
- Pa effaith fydd y cynlluniau i godi’r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol yn unol ag ag enillion cyfartal cenedlaethol yn gael ar fy mhensiwn?
Peth yw Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol?
Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol yw pensiwn ar sail enillion ar ben y Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Ei enw’n wreiddiol oedd Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS), a daeth yr Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn ei le yn 2002.
Mwy am SERPS ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth
Beth ydych yn feddwl drwy 'eithro allan'?
Mae 'eithro allan' yn golygu eich bod wedi ymuno â chynllun cwmni, hapddaliwr neu bensiwn personol y gellir ei ddefnyddio yn lle holl, neu ran o’r Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol (SERPS neu Ail Bensiwn y Wladwriaeth).Oherwydd hyn taloch gyfradd is o Yswiriant Gwladol.
Nid wyf wedi eithro allan erioed, felly pam fod didiyniad eithro allan ar fy rhagolwg?
Os ydym yn cymryd didyniad eithro allan oddi arnoch, mae eich cofnod Yswiriant Gwladol yn dangos eich bod wedi eich eithro allan ar ryw amser cyn 6 Ebrill 1997.
Gallwch gael manylion eich cyflogaeth eithro allan drwy gysylltu â Cyllid a Thollau EM.
Beth yw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref?
Mae Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn helpu diogelu eich pensiwn drwy ostwng y nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen am Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol.
Efallai y cewch Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref os ydych yn treulio amser yn gofalu am blentyn neu berson sâl neu anabl ac yn derbyn budd-daliadau arbennig.
Mwy am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Pa Bensiwn y Wladwriaeth mae fy mhriod neu bartner sifil â hawl iddo?
Os nad yw eich priod neu bartner sifil wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dylent wneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn eu henw eu hunain. Os ydynt wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn barod ac ddim yn derbyn eu Pensiwn y Wladwriaeth dylent gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn
Cysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn
Cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Rwyf wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd is. A ydyw’r rhain yn cyfrif tuag fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
Na. Nid yw unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyfradd is rydych wedi eu talu yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Pam wyf yn talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd is?
Yn y gorffennol, gallai rhai merched priod a gweddwon ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyfradd is fel cyflogai, neu ddewis peidio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan yn hunangyflogedig. Galwyd hyn yn Etholiad Gwragedd Priod neu Weddwon.
Er fod wedi dod i ben yn 1977, gallai merched a oedd yn talu y gyfradd is yn gallu parhau i wneud hynny.
Nid yw cyfraniadau cyfradd is yn cyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth ac ni chewch Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref am unrhyw gyfnod sy'n dod o dan Etholiad Gwragedd Priod neu Weddwon.
Byddwch yn rho'r gorau i dalu cyfraddau is os:
- Ydych yn ysgaru neu mae eich priodas yn cael ei dirymu (ei diddymu’n swyddogol)
- Am ddwy flynedd treth yn olynol, rydych:
- Heb ennill digon i dalu, neu cael eich trin fel eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol fel cyflogai: ac
- Heb fod yn hunangyflogedig
- Ydych wedi rho'r gorau i fod yn gymwys i fudd-dal profedigaeth arbennig
- Ydych wedi gofyn i beidio talu’r cyfraddau is
Os ydych angen cyngor ynglŷn ag Etholiad Gwragedd Priod neu Weddwon cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.
Roeddwn yn y brifysgol tan oeddwn yn 22. A ydwyf yn cael credydau tuag at fy Mhensiwn y Wladwriaeth am y blynyddoedd hyn?
Ni fyddwch yn derbyn credydau am unrhyw gyfnodau wedi eu treulio yn y brifysgol. Fodd bynnag byddwch yn derbyn credydau yn awtomatig am y blynyddoedd treth yn ystod yr amser y cafoch eich penblwydd yn un ar bymtheg, dwy ar bymtheg a deunaw os oedd y rhain yn disgyn ar neu ar ôl 6 Ebrill 1975 os oeddech mewn addysg llawn amser, prentisiaeth di-dal neu hyfforddiant.
A ydych wedi cymryd i ystyriaeth unrhyw gyfraniadau rwyf wedi eu talu tra roeddwn yn gweithio dramor?
Nid yw eich rhagolwg yn cymryd i ystyried unrhyw gyfraniadau nawdd cymdeithasol efallai eich bod wedi eu talu tra’n gweithio dramor. Fodd bynnag, os y gwnaethoch dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol tra’n gweithio mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad sydd â threfniant nawdd cymdeithasol ddwyochrog gyda’r Deyrnas Unedig, byddwn yn ystyried hyn pan fyddwch yn gwneud eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol.
Cysylltwch â'r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol
A allaf roi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol unwaith mae gennyf ddigon o flynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn?
Os ydych yn gweithio i gyflogwr ac mae eich cyflog uwchben lefel arbennig, mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol tan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn hunangyflogedig, mae’n rhaid i chi barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 hyd at eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ar wahân i unrhyw flwyddyn dreth mae gennych dystysgrif rhyddhad enillion isel amdani,
Os ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol am unrhyw gyfnod pan nad ydych yn gweithio, gallwch benderfynu i ro’r gorau i dalu cyfraniadau.
Fodd bynnag, byddwch angen cael blynyddoedd cymhwyso am oddeutu 90 y cant o flynyddoed yn eich bywyd gwaith i roi budd-dal profedigaeth llawn i’ch gweddw, gŷr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi.
Pa effaith fydd y cynlluniau i godi’r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol yn unol ag ag enillion cyfartal cenedlaethol yn gael ar fy mhensiwn?
Mae eich rhagolwg pensiwn yn dangos faint o Bensiwn y Wladwriaeth efallai a gewch yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol hyd yn hyn, ac eich cofnod Yswiriant Gwladol wedi ei amcangyfrif pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gall eich Pensiwn Y Wladwriaeth fod wedi ei wneud i fyny o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol, Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu’r ddau. Mae’r swm a ddangosir ar y rhagolwg yn seiliedig ar gyfraddau ar hyn o bryd.
Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol
Pob blwyddyn, mae'r swm o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol yn codi i ddiogelu ei werth. Ar y funud, mae'r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol yn codi ar yr un cyfradd a chodiadau mewn prisiau cyffredinoll (gelwir hefyd yn chwyddiant).
Yn y Ddeddf Pensiynau 2007, newidiodd y Llywodraeth y gyfraith, fel yn y dyfodol, bydd y Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol yn unol ag enillion cyfartal yn lle prisiau cyffredinol. Mae'r dyddiad y bydd hyn yn dechrau i'w benderfynu eto, ond disgwyliwn iddo ddigwydd o 2012. Dros y tymor hir, mae enillion cyffredinol yn dueddol o godi'n gynt na phrisiau cyffredinol
Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol
Hyd nes y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn cael ei ail brisio pob blwyddyn yn unol ag enillion cyffredinol. Unwaith y byddwch yn ymddeol, yna bydd y rhan hwnnw o’ch Pensiwn y Wladwriaeth yn codi yn unol ag enillion cyffredinol.
Erbyn yr amser y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y swm o Bensiwn y Wladwriaeth a dderbyniwch fod yn wahanol i'r swm a ddangosir yn y rhagolwg. Mae hyn oherwydd y newidiadau i’r gyfraith a ddisgwylir o 2012, a newidiadau mewn lefel prisiau cyffredinol ac enillion cyffredinol dros amser.


