Beth fydd yn digwydd os?
Byddaf yn mynd i'r ysbyty neu bydd rhywun rwy'n gwneud cais ar eu cyfer yn mynd i'r ysbyty?
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth Y Gwasanaeth Pensiwn yn union ar ôl i chi fynd i mewn neu ddod allan o'r ysbyty, os byddwch yn cael cynnydd ar gyfer rhywun wed'i dalu gyda'ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Byddaf yn mynd i fyw dramor neu ymweld â gwlad dramor?
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag y gallwch i roi gwybod i ni eich bod yn mynd dramor.
Gallwch barhau i gael eich Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw le yn y byd. Effeithir ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau os ydych yn mynd dramor. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wledydd penodol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu darllenwch ein cwestiynau cyffredin am fyw dramor yn ein hadran ABC.
Byddaf yn mynd dramor am 3 mis neu lai
Os caiff eich Pensiwn y Wladwriaeth ei dalu i mewn i gyfrif, gall hyn barhau. Os cewch eich talu drwy siec gallwch ofyn i ni dalu'r arian i mewn i gyfrif neu byddwn yn talu eich Pensiwn y Wladwriaeth fel cyfandaliad pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU.
Os byddwch yn mynd dramor am gyfnod rhwng 6 a 12 mis
Os telir eich Pensiwn y Wladwriaeth i mewn i gyfrif, gall hyn barhau. Yna gallwch drefnu i drosglwyddo'r arian dramor.
Os nad ydych am i hyn barhau, gallwn anfon siec (mewn sterling) ar ddiwedd bob 4 neu 13 wythnos. Gallwch anfon hwn yn syth atoch chi, eich banc dramor neu rywun arall a apwyntir gennych.
Os byddai'n well gennych, gallwn dalu'ch Pensiwn y Wladwriaeth fel cyfandaliad ar ôl i chi ddychwelyd i'r DU.
Byddaf yn mynd dramor am fwy na 12 mis neu'n barhaol
Gallwn anfon eich Pensiwn y Wladwriaeth yn syth i mewn i'ch cyfrif tramor mewn rhai gwledydd.
Os nad yw hynny'n bosib, neu os byddai'n well gennych, gallwn dalu'ch Pensiwn y Wladwriaeth i mewn i gyfrif y DU neu gallwn anfon siec atoch (mewn sterling) ar ddiwedd bob 4 neu 13 wythnos. Gallwn anfon hwn yn syth atoch chi, eich banc dramor neu rywun arall y tu allan i'r DU a ddewisir gennych.
Os byddwch i ffwrdd am lai na dwy flynedd gallwn dalu'ch Pensiwn y Wladwriaeth fel cyfandaliad pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU.
Os yw'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn £5 yr wythnos neu lai ac yn cael ei dalu unwaith y flwyddyn, byddwn yn parhau i'w dalu y ffordd hon tra'ch bod dramor.
Efallai y bydd oedi gyda'ch taliad cyntaf ar ôl i chi adael y DU, ond byddwn yn ymdrechu i gadw unrhyw oedi mor fyr â phosibl.
Efallai y bydd yn rhaid gwneud trefniadau arbennig os bydd angen taliadau arnoch ym Mhacistan, India neu Fangladesh.
Gallwch barhau i gael eich Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw le yn y byd, ond mewn rhai gwledydd efallai na allwch gael cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer eich pobl ddibynnol neu'r cynnydd blynyddol yn eich taliadau. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn cyn i chi fynd dramor.
Byddaf yn dechrau gwaith gwirfoddol?
Nid yw gwaith gwirfoddol fel arfer yn effeithio ar Bensiwn y Wladwriaeth
Byddaf yn mynd i mewn i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio?
Efallai yr effeithir ar eich Pensiwn y Wladwriaeth. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag yr ewch i mewn i ofal neu gartref a byddwn yn eich cynghori.


