Sut ydw i'n gwneud cais?
Fe'ch gwahoddir fel arfer i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth 4 mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad 3 mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn.
Mae'n bwysig ein bod yn gallu bod yn si_r pwy ydych chi pan fyddwch yn gwneud cais. Efallai y bydd angen i ni ofyn am eich cefndir ac edrych ar unrhyw ddogfennau swyddogol sydd gennych i ategu'r wybodaeth a roddwch.
Darllen neu argraffu ffurflen
Gallwch ddarllen neu argraffu ffurflen gais budd-dal Pensiwn y Wladwriaeth. Dylech bostio'r ffurflen hon wedi'i chwblhau i'ch canolfan bensiynau neu'ch swyddfa leol.
Nid yw'r ffurflen hon yn weithredol yng Ngogledd Iwerddon. Am wybodaeth am bensiynau yng Ngogledd Iwerddon gwelwch Department for Social Security Development In Northern Ireland website
Gallwch ffonio llinell gais Pensiwn y Wladwriaeth ar 0845 300 1084 (ffôn testun 0845 300 2086), oriau agor 8am i 8pm dydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm dydd Sadwrn.


