Rhagor o help i ofalwyr
Os ydych wedi bod yn edrych ar ôl rhywun drwy gydol unrhyw amser yn y dair blynedd ddiwethaf, efallai y byddwch yn gymwys i Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol os:
- nad ydych wedi gweithio
- rydych wedi ennill cyflog isel
Os ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr, Cymhorthdal Incwm fel gofalwr neu Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan chwech oed, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gwahanol a byddwch yn adeiladu Ail Bensiwn y Wladwriaeth (Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol).
Os nad ydych, efallai y byddwch angen cychwyn adeiladu eich Ail Bensiwn y Wladwriaeth trwy wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Os ydych wedi bod yn gofalu llawn amser am berson sal neu anabl heb dderbyn Cymhorthdal Incwm fel gofalwr neu Lwfans Gofalwr, bydd angen i chi wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref i gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych wedi edrych ar ôl rhywun trwy gydol y flwyddyn dreth 2004/2005, y dyddiad hwyraf y gellwch wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref yw 5 Ebrill 2008.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Bydd ein taflen ynglŷn â Pensiynau'r Wladwriaeth yn dweud wrthych am:
- Ail Bensiwn y Wladwriaeth
- yr amodau hawlio
- beth sydd angen i chi ei wneud
Darllenwch neu argraffwch gopi o’n taflen ynglŷn â Pensiynau'r Wladwriaeth
Neu gellwch ffonio 0845 7 31 32 33 i gael copi.


