Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol
Beth ydyw?
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, gallai fod hawl gennych i gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth ac yn gynharach yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS)). Fel y mae’r enw yn ei awgrymu, telir Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ar ben Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol.
Hyd at fis Ebrill 2002, roedd SERPS yn seiliedig ar eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a’ch lefel o enillion fel cyflogai.
Ar 6 Ebrill 2002, ail-ffurfiodd Ail Bensiwn y Wladwriaeth SERPS i ddarparu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol mwy hael ar gyfer enillwyr isel a chanolig, ac ehangu mynediad i gynnwys rhai gofalwyr a phobl â salwch hirdymor neu anabledd. (Caiff unrhyw hawliad SERPS sydd eisoes wedi cronni ei ddiogelu ar gyfer y rhai sydd eisoes wedi ymddeol ac ar gyfer y rhai nad ydynt eto wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.)
Mae Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn rhoi pensiwn gwell i gyflogeion sy’n ennill hyd at at £31,100 (yn nhermau 2008/09) na SERPS, p'un a ydynt wedi eithrio i mewn i bensiwn preifat ai peidio, gyda’r rhan fwyaf o'r help yn mynd i'r rhai sydd ag enillion isaf (hyd at tua £13,500 yn nhermau 2008/09).
Pan fyddwch yn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, cyfrifir unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol sy'n ddyledus i chi hefyd.
Beth arall y dylwn ei wybod
Os gwnaethoch gyfrannu at Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol cyn mis Ebrill 2002 drwy SERPS, mae rhywfaint o wybodaeth bwysig y mae angen i chi wybod amdani am ganran y SERPS y gallech ei throsglwyddo i'ch gŵr/gwraig os byddwch yn marw.
Mae rhagor o wybodaeth am etifeddu SERPS ar gael ar y wefan hon neu gallwch ddarllen neu argraffu ein taflen ‘Gwybodaeth bwysig i bobl briod - Etifeddu SERPS’
Dim ond uchafswm o 50% o’ch Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol o'ch Ail Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei drosglwyddo.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiynau
Gallwch ddarllen neu argraffu neu ofyn am gopïau o’n canllawiau a ffurflenni cais ar y wefan hon.
Gallwch wneud cais am Ragolwg Pensiwn drwy ddarllen neu argraffu’r ffurflen Rhagolwg Pensiwn o’n canolfan adnoddau.
Help arall
Pensiwn y Wladwriaeth
Credyd Pensiwn
Taliadau Tanwydd Gaeaf
Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw’r wefan hon ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o'r gyfraith.


