Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Trwyddedau gyrru

Ffôn 0870 240 0009

Os ydych yn 70 oed neu’n hyn, ni fydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn codi ffi arnoch am drwydded gyrru tair blynedd.

Bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn anfon ffurflen adnewyddu atoch yn fuan cyn y bydd eich trwydded yrru yn dod i ben. Mae'n rhaid i bobl sy'n 70 oed a throsodd ail wneud cais am drwydded yrru a llenwi holiadur bob tair blynedd i wneud yn siwr eu bod yn abl yn feddygol i yrru.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Neu ffoniwch yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ar 0870 240 0009. Mae'r llinell ar agor o 8.00am i 8.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 8.00am i 5.30 ar ddydd Sadwrn. (Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 01792 78 27 87.)