Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Bysiau yng Nghymru neu Loegr

Cynllun tocynnau bws rhatach yng Nghymru neu Loegr
Os ydych yn byw yn Lloegr

Cynllun tocynnau bws rhatach yng Nghymru neu Loegr Os ydych yn byw yn Lloegr Os ydych yn 60 oed neu'n hŷn, mae'n rhaid i'ch cyngor lleol (neu'r Awdurdod Gweithredol Trafnidiaeth i Deithwyr mewn ardaloedd metropolitan) roi pás bws am ddim i chi er mwyn caniatáu i chi deithio o leiaf hanner pris ar y bws yn eich ardal. Efallai bod cynlluniau teithio lleol eraill hefyd i'ch helpu i fynd o amgylch.

Os ydych yn byw yng Nghymru.

Os ydych yn 60 oed neu’n hyn, - neu os - beth bynnag yw’ch oedran – rydych yn bodloni un neu fwy o’r amodau anabledd mae’n rhaid i’ch cyngor lleol ddarparu pás am ddim sy’n gwarantu y cewch deithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol Os bydd angen y cymorth ychwanegol arnoch y byddai hebryngydd yn ei ddarparu, dylech ofyn i’ch cyngor lleol ystyried rhoi pás ‘Hebrwng’ i chi, gan ganiatáu i berson arall i deithio am ddim hefyd ar wasanaethau bysiau lleol pan fydd yn eich hebrwng.

Beth ddylwn i ei wneud?

I gael rhagor o wybodaeth am ba gynlluniau sydd ar gael yn eich ardal chi, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol neu'r Awdurdod Gweithredol Trafnidiaeth i Deithwyr. Gallwch ddod o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan DU Ar-lein.

Mae tocynnau bws hanner pris ar deithiau pellter hir hefyd ar gael ledled Cymru a Lloegr - ac i mewn i'r Alban - i unrhyw un sy'n 60 oed a throsodd. Mae'r cynllun yn cynnwys gwasanaethau bysiau rhestredig a redir gan National Express a rhai cwmnïau llai fel Berrys a Baker Dolphin. Gallwch gael manylion gan y cwmnïau bws sy'n cymryd rhan yn y cynllun.