Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Mathau eraill o help y wladwriaeth

Rydym am wneud yn siwr eich bod yn cael cymaint â phosibl o'ch ymddeoliad. Mae rhywfaint o help ar gael i bob person dros oedrannau penodol ac mae rhywfaint ar gael dim ond i'r rheini sydd ei angen. Dilynwch y cysylltiadau hyn i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw Credyd Pensiwn?

Hawliad yw Credyd Pensiwn ar gyfer pobl 60 oed a throsodd sy’n byw ym Mhrydain Fawr, a allai ychwanegu at eich incwm wythnosol hyd at isafswm lefel gwarantedig. Ac, os ydych wedi cynilo tuag at eich ymddeoliad, gallech dderbyn arian ychwanegol hefyd.

Cewch ragor o wybodaeth am Gredyd Pensiwn yn adran Credyd Pensiwn y wefan hon

Beth yw Taliadau sy’n Gysylltiedig ar Oedran 2005?

Taliadau untro oedd y Taliadau sy’n Gysylltiedig ag Oedran a dalwyd yn ystod gaeaf 2005/06 yn unig.

Y dyddiad terfynol ar gyfer hawlio Taliad sy’n Gysylltiedig ag Oedran oedd 30 Mawrth 2006.

Os nad ydych wedi cael eich Taliad Cysylltiedig-ag-Oedran a chithau’n meddwl eich bod yn gymwys i dderbyn y taliad, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf

Beth yw Taliad Uniongyrchol?

Rydym fel arfer yn talu Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn yn syth i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel o dalu ac mae’n rhoi’r dewis i chi sut a phryd y cewch eich arian. Gallwch ddefnyddio banc neu gymdeithas adeiladu. Ceir trefniadau gyda rhai banciau a chymdeithasau adeiladu fel y gallwch gasglu arian parod o rai o’u cyfrifon yn eich cangen Swyddfa’r Post. Mae Swyddfa’r Post hefyd yn darparu cyfrif banc y gallwn dalu budd-daliadau a hawliadau i mewn iddo.

Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor

Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael help i dalu am eich rhent a biliau Treth Gyngor. Nid oes rhaid i chi fod yn cael unrhyw fudd-dal arall.

Mae'ch cyngor lleol yn talu Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor. Bydd faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu, ymysg pethau eraill, ar eich incwm a'ch cynilion a faint o rent a Threth Gyngor rydych yn eu talu ar hyn o bryd.

Cewch ragor o wybodaeth am Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Neu gallwch gael taflenni HBA5DWPW Help gyda'ch rhent a CTA5DWPW Help gyda'ch Treth Gyngor o ganolfan adnoddau'r Adran Gwaith a Phensiynau, gan eich cyngor lleol, neu gan eich canolfan bensiynau neu swyddfa nawdd cymdeithasol

Dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan Directgov

Beth yw Taliad Tanwydd Gaeaf?

Os ydych yn 60 oed neu'n hyn, gallai fod hawl gennych i gael Taliad Tanwydd Gaeaf i'ch helpu gyda'ch biliau gwresogi yn y gaeaf.

Telir y rhain fel arfer yn awtomatig i bobl, ond er mwyn gweld a oes angen i chi wneud cais, gallwch gysylltu â'r llinell gymorth neu eu ffonio ar 0845 9 15 15 15 (o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8.30am i 4.30pm, codir cyfraddau lleol am alwadau).

Cewch ragor o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf yn adran Tanwydd Gaeaf y wefan hon.

Grantiau Gofal Cymunedol gan y Gronfa Gymdeithasol

Gallwch wneud cais am Grant Gofal Cymunedol os bydd angen help arnoch i:

  • aros yn eich cartref eich hun
  • dychwelyd i'ch cartref eich hun o rywle rydych wedi bod yn cael gofal neu
  • lleddfu pwysau eithriadol arnoch chi neu'ch teulu
  • gofal i garcharor neu droseddwr ifanc a ryddhawyd o’r ddalfa ar drwydded dros dro
  • sefydlu cartref fel rhan o ailsefydlu wedi’i gynllunio; neu
  • talu rhai costau teithio.

Bydd angen i chi fod yn cael Credyd Pensiwn neu byddwch yn debygol o gael Credyd Pensiwn pan fyddwch yn symud yn dilyn arhosiad mewn gofal. Os ydych yn ofalwr, weithiau gallwch chi wneud cais hefyd. Mae'r amodau ar gyfer gwneud cais yn amrywio, felly dylech wirio gyda'r Gwasanaeth Pensiwn neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol

Cewch ragor o wybodaeth am Grantiau Gofal Cymunedol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Neu llwythwch y taflenni GL18W Help gan y Gronfa Gymdeithasol a SB16W Canllaw i'r Gronfa Gymdeithasol o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Benthyciadau Trefnu gan y Gronfa Gymdeithasol

Mae Benthyciadau Trefnu yn ddi-log ac wedi'u bwriadu er mwyn helpu i daenu cost treuliau unigol dros gyfnod hirach. Gallwch gael Benthyciad Trefnu os bydd angen help arnoch i brynu eitemau fel dodrefn, nwyddau i'r cartref, dillad, esgidiau, neu dreuliau fel rhent, costau symud neu welliannau i'r cartref, neu help gyda llog-bwrcas a debydau eraill.

Gallai'r benthyciadau hyn fod ar eich cyfer chi os ydych wedi bod yn cael Credyd Pensiwn ac wedi bod yn cael:

  • Credyd Pensiwn am o leiaf 26 wythnos neu
  • Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (neu daliad ar gyfrif o un o'r budd-daliadau hyn) am o leiaf 26 wythnos neu
  • gyfuniad o'r budd-daliadau hyn am o leiaf 26 wythnos.

Cewch ragor o wybodaeth am Fenthyciadau Trefnu ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith neu cysylltwch â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol

Gallwch hefyd lwytho'r taflenni GL18W Help gan y Gronfa Gymdeithasol a SB16W Canllaw i'r Gronfa Gymdeithasol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Benthyciadau Argyfwng gan y Gronfa Gymdeithasol

Nid oes rhaid i chi gael budd-daliadau nawdd cymdeithasol i wneud cais am Fenthyciad Argyfwng. Gallai Benthyciadau Argyfwng eich helpu os bydd angen eitem benodol arnoch neu os bydd angen help byrdymor arnoch gyda chostau byw. Er enghraifft, efallai y bydd tân neu efallai y byddwch yn colli arian drwy ladrad neu fyrgleriaeth a bydd angen rhywbeth arnoch i fyw arno nes y byddwch yn cael eich pensiwn nesaf.

Cewch ragor o wybodaeth am Fenthyciadau Argyfwng ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu cysylltwch â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol

Gallwch hefyd lwytho'r taflenni GL18W Help gan y Gronfa Gymdeithasol a SB16W Canllaw i'r Gronfa Gymdeithasol o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Pensiynwyr sy'n byw dramor

Os ydych yn byw dramor yn barhaol, mewn rhai gwledydd gallech gael cynnydd blynyddol yn eich Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai y byddwch hefyd yn gallu parhau i gael Taliadau Tanwydd Gaeaf os y byddwch yn symud i wlad arall sy'n dilyn rheolau'r Gymuned Ewropeaidd ar nawdd cymdeithasol, ac yn gymwys i gael taliad yn y DU. Gallech hefyd gael Taliad Profedigaeth unrhyw le yn y byd os oes gennych hawl iddo.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael budd-daliadau eraill os ydych yn byw y tu allan i'r DU

Os byddwch yn mynd dramor dros dro, efallai y byddwch yn gallu parhau i gael eich hawliadau budd-dal am gyfnod cyfyngedig. Bydd unrhyw bensiwn a budd-dal rydych yn talu treth arno yn dal i gael ei drethu os ydych yn byw dramor. Bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich incwm o'r DU. Gweler ein hadran ar dreth

Cewch ragor o wybodaeth am eich Pensiwn y Wladwriaeth a byw dramor yn ein hadran ABC neu darllenwch neu argraffwch GAA5DWPW 'Mynd dramor a budd-daliadau nawdd cymdeithasol' nawdd cymdeithasol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dylech gael cyngor gan Y Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted â phosibl os ydych yn cael pensiynau'r wladwriaeth neu fudd-daliadau ac yn cynllunio i fynd dramor. Os ydych yn byw yn y DU cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn drwy ein hadran cysylltu â ni.

Cewch wybodaeth am gytundeb nawdd cymdeithasol gyda gwledydd eraill ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

ABC budd-daliadau a gwasanaethau

I gael yr amrywiaeth lawn o help y llywodraeth i bensiynwyr, gallwch edrych ar eich ABC Budd-daliadau a Gwasanaethau