Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Cymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru neu Loegr

Ffôn 0845 30 30 9000

Os ydych wedi bod yn ddioddefwr trosedd, gall y sefydliad gwirfoddol hwn a ariennir gan y llywodraeth ddarparu cymorth cyfrinachol, help ymarferol a gwybodaeth am ddim. Os bydd yr heddlu yn dal y person sydd wedi'i gyhuddo o'r drosedd a bod yr achos yn mynd i'r llys, gallwch hefyd gael help gan wasanaeth tystion Cymorth i Ddioddefwyr.

Os ydych wedi bod yn ddioddefwr trosedd a hoffech siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch ffonio'r llinell gymorth genedlaethol ar 0845 30 30 900. Mae'r llinell ar agor o 9.00am i 9.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9.00 i 7.00pm ar benwythnosau, ac o 9.00am i 5.00 ar wyliau cyhoeddus.

Gallwch hefyd gysylltu â'ch cynllun Cymorth i Ddioddefwyr lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cynllun Cymorth i Ddioddefwyr lleol ar wefan Cymorth i Ddioddefwyr.