Cyngor cyfreithiol yng Nghymru neu Loegr
Ffôn 0845 608 1122
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr ac am gael cyngor ar faterion fel problemau dyled, budd-daliadau lles, cartrefi a mewnfudo, gall y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol eich helpu.
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn gwella mynediad y cyhoedd i wasanaethau cyfreithiol a chyngor o ansawdd da. Wrth wraidd y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol mae rhwydweithiau lleol o ddarparwyr gwasanaeth. Mae'r rhain yn cynnwys canolfannau cynghori, canolfannau'r gyfraith, canolfannau cyngor annibynnol a gwasanaethau awdurdod lleol.
Nod y bobl sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yw ceisio eich rhoi mewn cysylltiad â'r person cywir yn gyflym er mwyn i chi allu cael y math cywir o gyngor a gwybodaeth.
Os ydych am ddod o hyd i'ch darparwr Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol agosaf, gallwch ffonio llinell gyfeirio'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 608 1122. Mae'r llinell ar agor saith diwrnod yr wythnos o 9.00am i 5.30pm. (Mae gwasanaeth ffôn testun hefyd ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 609 6677.)
Hefyd mae nifer o Bwyntiau Gwybodaeth Gyfreithiol Cymunedol wedi'u gosod mewn llyfrgelloedd lleol, llysoedd sirol a hefyd o nifer gynyddol o safleoedd eraill. Mae gan bob Pwynt Gwybodaeth Gyfreithiol Cymunedol gopi o'r cyfeirlyfr rhanbarthol perthnasol o wasanaethau cyfreithiol yn ogystal ag amrywiaeth o daflenni sy'n rhoi gwybodaeth sylfaenol am faterion cyfreithiol cyffredin, fel dyled, tai, cyngor defnyddwyr a chyflogaeth.
Mae'r cyfeirlyfr gwasanaethau cyfreithiol hefyd ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol


