Galwyr ffug
Nod galwyr ffug a allai fod o unrhyw oedran ac ymddangosiad, dyn neu ferch, yw eich twyllo neu eich poenydio i chi adael eich cartref neu eu gadael nhw i mewn drwy greu straeon.
Efallai y byddant yn actio fel gweithwyr bwrdd dwr neu nwy, gweithwyr y cyngor neu swyddogion yr heddlu, er mwyn iddynt allu dwyn arian neu eiddo o'ch cartref. Gallwch atal y math hwn o drosedd os cymerwch gamau rhagofalus.
I leihau'r risg o ran dod yn ddioddefwr o'r drosedd hon, cofiwch y tri cham canlynol:
Arhoswch cyn agor y drws.
Cadwyn defnyddiwch un.
Gwiriwch gofynnwch i'r galwr am eu prawf adnabod - a gwiriwch ef - cyn
eu gadael i mewn. Defnyddiwch y rhif ffôn sydd yn y llyfr ffôn, nid
yr un sydd ar y cerdyn adnabod.
Os ydych yn byw yw Nghymru neu Loegr
Mae’r Llywodraeth wedi rhoi cyngor sydd ar gael o’ch cyngor lleol, gorsaf heddlu a grwp gwarchod cymdogaeth lleol
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan Directgov
Cewch ragor o wybodaeth am ostwng trosedd ar wefan Gostwng Trosedd


