Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Cymorth i ofalwyr

Ydych chi'n gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl neu rywun na allai ymdopi heb eich help? Ydych chi'n helpu rhywun i olchi, bwyta neu wisgo? Ydych chi'n casglu meddyginiaethau ar gyfer pobl ac yn gwneud yn siwr eu bod yn eu cymryd ar yr amser cywir? Ydych chi'n casglu budd-daliadau neu bensiynau ar gyfer rhywun, yn talu'u biliau neu'n eu helpu i reoli eu harian?

Efallai nad ydych yn meddwl amdanoch eich hun fel gofalwr. Efallai eich bod yn teimlo eich bod ond yn gofalu am eich partner, plentyn, perthynas neu gymydog. Er hynny, mae help ar gael.

Efallai y gallwch chi a'r person rydych yn gofalu amdano gael help gan eich cyngor lleol neu'r GIG. Mae ganddynt wybodaeth am fudd-daliadau a help arall sydd ar gael, yn cynnwys y cymorth y gallwch ei gael i'ch helpu i gael seibiant o ofalu.

Efallai y gallwch hefyd gael help gyda thasgau'r cartref neu addasiadau i'ch cartref i wneud gofalu yn haws. Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol wneud asesiad gofal cymunedol gyda'r person rydych yn gofalu amdano i weld pa help sydd ei angen arnynt. Fel eu gofalwr, byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i ddweud beth y credwch chi sydd eu hangen arnynt.

Gallwch hefyd ofyn i'ch cyngor am asesiad gofalwr ar wahân o'ch sefyllfa chi ar unrhyw adeg. Bydd hyn yn eich helpu i gael gwybodaeth am y cymorth y gallwch ei gael i'ch helpu i barhau i ofalu am gyn hired ag yr ydych am wneud neu'n gallu gwneud hynny.

Gall Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich cyngor lleol ddweud wrthych am eich hawliau a pha help sydd ar gael. Gofynnwch i'ch meddyg teulu, meddygfa eich meddyg teulu, nyrs ardal neu ymwelydd iechyd i'ch helpu i gysylltu â'ch cyngor.

Dod o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan Directgov

Mae'r llywodraeth yn ei gwneud yn haws i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy wefan o'r enw Directgov. Mae'n rhoi gwybodaeth i ofalwyr mewn meysydd fel cyflogaeth, addysg, gwasanaethau cymorth, hawliau a materion ariannol.

Cewch ragor o wybodaeth i ofalwyr ar wefan Directgov

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Gofalwyr Ar-lein neu wefan Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr