Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Gwasanaethau cymdeithasol

Gall y gwasanaethau cymdeithasol eich helpu i barhau i fyw'n annibynnol yn eich cartref eich hun. Os yw'n briodol, gallant hefyd eich cynghori ar symud i mewn i dy gwarchod neu gartref gofal.

Darperir gwasanaethau cymdeithasol gan eich cyngor lleol. Bydd yn trafod eich anghenion gyda chi ac, os ydych yn gymwys, byddant yn rhoi cynllun gofal i chi. Bydd y cynllun hwn yn gosod manylion am yr help y byddwch yn ei dderbyn. Efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrannu at gost rhai o'r gwasanaethau.

Gall y gwasanaethau cymdeithasol ddarparu neu drefnu amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys dosbarthu pryd ar glud a chymorth cartref, gofal dydd, gofal seibiant, cymorth ar gyfer gofalwyr, a mynediad dros dro neu barhaol i gartref gofal. Mae gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio fwyfwy yn agos gyda gweithwyr proffesiynol iechyd fel meddygon a nyrsys, wrth asesu eich anghenion a chynllunio eich gofal.

I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â'ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol. Gallwch ddod o hyd i'r cyfeiriad a'r rhif ffôn yn y llyfr ffôn o dan Local government neu ar wefan Directgov. Efallai y gall eich meddygfa, eich canolfan gynghori leol neu'ch llyfrgell hefyd eich helpu.

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymdeithasol ar wefan yr Adran Iechyd