Galw Iechyd Cymru
Galw Iechyd Cymru
Ffoniwch 0845 46 47
Llinell gymorth 24 awr a arweinir gan nyrsys yw Galw Iechyd Cymru sy’n darparu cyngor a gwybodaeth gofal iechyd cyfrinachol am:
- beth i’w wneud os byddwch yn teimlo’n sâl
- pryderon iechyd i chi a’ch teulu
- gwasanaethau iechyd lleol, hunangymorth a sefydliadau cymorth
Mae’n gweithio gyda gwasanaethau gofal iechyd eraill a ddarperir gan y GIG, gan helpu galwyr i wneud y dewis cywir i ddiwallu eu hanghenion.
Gallwch ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Os nad Saesneg yw’ch iaith gyntaf, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu cyfrinachol. Ers mis Hydref 2004, mae gwasanaeth cenedlaethol newydd wedi bod ar gael drwy Galw Iechyd Cymru ar gyfer dehongli a chyfieithu dros y ffôn, yn cynnwys darparu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain. Codir cyfraddau lleol ar alwadau ac, ar gyfer diogelwch y cleifion, bydd pob galwad yn cael ei recordio. (Mae gwasanaeth ffôn testun hefyd ar gael ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 606 4647.)
Gallwch hefyd ymweld â gwefan Galw Iechyd Cymru i gael cyngor a gwybodaeth iechyd.


