Gofal nyrsio a ariennir gan y GIG
Os ydych yn anabl neu'n ofalwr, gallwch gael rhagor o wybodaeth am arian ychwanegol y gallech ei gael drwy ymweld ag adran Arian a threth y wefan hon.
Gofal nyrsio mewn cartrefi gofal a ariennir gan y GIG
Ffôn 029 2082 5295 (Cymru) neu 0870 1555 455 (Lloegr)
Os ydych mewn cartref gofal sy'n darparu gofal nyrsio neu'n cynllunio i fynd i un, p'un a ydych yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol gan y gwasanaethau cymdeithasol ai peidio, gallech fod yn gymwys i gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG os oes angen gofal arnoch gan nyrs gofrestredig.
Bydd unrhyw un sy'n cael cymorth ariannol gan y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer eu gofal mewn cartref gofal sy'n darparu gofal nyrsio yn cael y gofal sydd ei angen arnynt gan nyrs gofrestredig a delir gan y GIG. Os ydych hefyd yn cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, byddant yn gyfrifol am gostau gofal eraill ac am asesu'r lefel o unrhyw gyfraniad ariannol y gallai fod angen iddynt ei wneud.
Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch ffonio 0870 1555 455 i gael copi am ddim o'r daflen NHS Funding Care in Nursing Homes - what it means for you. Mae'r llinell ar agor o 8.00am i 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Codir cyfraddau lleol ar alwadau. Neu gallwch gysylltu â'ch Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn uniongyrchol.
Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch ffonio 029 2082 5295. Mae'r llinell ar agor o 9.00am i 4.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Neu gallwch gysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol yn uniongyrchol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y budd-daliadau a'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio ar y wefan hon.


