Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Treth Etifeddiant

Os yw'ch ystad ar hyn o bryd yn werth mwy na swm penodol (£263,000 yn 2004/05), efallai y bydd treth etifeddiant i'w thalu pan fyddwch yn marw.

Mae eich ystad yn cynnwys: popeth rydych yn berchen arno yn eich enw chi; eich rhan o unrhyw beth a gyd-berchnogir; asedau sydd mewn ymddiriedolaeth lle cewch fudd-dal; ac anrhegion a wnewch o fewn saith mlynedd cyn eich marwolaeth.

Fwy na thebyg ni fydd treth etifeddiant i’w thalu ar bethau fel anrhegion i elusennau yn y DU, asedau busnes neu amaethyddol ac anrhegion bach. Mae’n annhebygol y bydd yn rhaid i’ch gwr, gwraig neu bartner sifil dalu treth etifeddiant ar unrhyw beth rydych yn ei drosglwyddo iddynt hwy.

Mae gan Gyllid y Wlad amrywiaeth o daflenni sy'n rhoi mwy o fanylion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am dreth etifeddiant ar wefan Cyllid y Wlad. I gael rhagor o wybodaeth gallwch ffonio'r llinell gymorth Profiant a Threth Etifeddiant ar 0845 3020 900. Mae'r llinell ar agor o 9.00am o 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae Gofal Profedigaeth Cruse a nifer o sefydliadau eraill yn darparu cymorth emosiynol mewn adegau o brofedigaeth. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y sefydliadau hyn yn yr adran cysylltiadau defnyddiol o'r wefan hon.