Cyflwyniad
Beth sy’n digwydd i’r Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn a pensiwn preifat pan mae person yn marw?
Os oedd y person a fu farw yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn a chi yw eu priod, partner sifil neu gynrychiolydd anffurfiol gallwch hysbysu eu marwolaeth i ni dros y ffôn. Ni fyddwch angen anfon Tystysgrif Marwolaeth (BD8) atom.
Ffoniwch Y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 275 (ffôn testun 0845 60 60 295). Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 8pm.
Os oedd y person a fu farw yn derbyn pensiwn preifat, byddwch angen cysylltu â gweinyddwyr y cynllun.
Cewch ragor o wybodaeth ar beth i’w wneud ar ôl marwolaeth ar y wefan Directgov Darganfyddwch fwy ynglyn â phrofedigaeth ar eu gwefan


