Taliad Profedigaeth
Cyfandaliad o £2,000 yw Taliad Profedigaeth i’ch helpu chi ar adeg marwolaeth eich gwr, gwraig neu bartner sifil.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (65 i ddynion, 60 i ferched ar hyn o bryd) ni fyddwch fel arfer yn gallu cael budd-daliadau profedigaeth. Ond os nad oedd eich gwr, gwraig neu bartner sifil yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y gallwch gael Taliad Profedigaeth.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod eich gwr, gwraig neu bartner sifil wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol tra’r oeddent yn gweithio.
Mae rheolau arbennig yn berthnasol os nad ydych yn byw yn y DU. Gweler ein hadran ar bensiynau a budd-daliadau i bensiynwyr sy’n byw dramor. Ni fyddwch yn talu treth ar unrhyw Daliadau Profedigaeth y gallech eu derbyn.
Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am Daliad Profedigaeth ar gyfer marwolaethau ar 1 Ebrill 2003 neu wedi’r dyddiad hwnnw wedi ei ymestyn i 12 mis. Roedd y cyfyngiad amser hwn yn arfer bod yn dri mis. Os credwch y gallech fod yn gymwys llenwch y ffurflen gais cyn gynted â phosibl ar ôl y farwolaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Daliadau Profedigaeth a chael ffurflen gais ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.


