Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Tai lloches

Efallai bod tai gwarchod ar eich cyfer chi os ydych yn 60 oed neu'n hŷn a'ch bod am fyw mewn cartref sydd wedi'i gynullunio'n arbennig ar gyfer anghenion pobl hyn.

P'un a ydych yn sengl neu'n gwpl, am rentu neu brynu, gallai tai gwarchod fod yn opsiwn. Mae cynlluniau'n amrywio o ddarparwr i ddarparwr, ond maent fel arfer yn cyfuno cartrefi o ansawdd da gyda diogelwch a'r annibyniaeth o deimlo mai'ch cartref chi ydyw.

Gall cynlluniau'n aml gynnig gwasanaethau fel warden neu reolwr preswyl, gwasanaeth larwm 24-awr, gwasanaethau golchi dillad, ardaloedd wedi'u rhannu a gweithgareddau cymdeithasol. Mae rhai cynlluniau, sy'n cael eu hadnabod fel cynlluniau tai 'wedi'u gwarchod llawer' neu 'ofal ychwanegol', yn cynnig gofal personol wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigol, ar ben gwasanaethau warden.

Mae mwy o awdurdodau lleol yn gallu darparu llawer o’r gwasanaethau warden a fyddai ar gael mewn tai gwarchod i berchenogion neu denantiaid sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Gwnânt hyn drwy wasanaethau ‘cymorth fel y bo’r angen’ a ddarperir o dan y rhaglen Cefnogi Pobl.

Ble y mae’r cymorth hwn ar gael, byddai’n golygu na fydd angen i chi symud i dai gwarchod i dderbyn ymweliadau rheolaidd gan weithiwr cymorth. Gallai’r gweithiwr cymorth:

  • gynnig cyngor ar wneud cais am fudd-daliadau
  • eich helpu i ddelio â’ch biliau nwy, trydan, ffôn a biliau eraill
  • cynnig cymorth ymarferol arall i’ch helpu i fyw yn eich cartref eich hun am fwy o amser

Gallwch gael gwybodaeth am wasanaethau Cefnogi Pobl lleol gan eich Timau Cefnogi Pobl lleol. Efallai eu bod yn rhan o’r cyngor lleol neu’ch cyngor sir. Mae’r manylion cyswllt ar wefan Cefnogi Pobl yn www.spkweb.org.uk

Os byddwch yn penderfynu rhentu neu brynu, bydd angen i chi dalu tâl gwasanaeth i gwmpasu pob gwasanaeth yn cynnwys costau gweinyddol a chynnal a chadw.

Gallai fod hawl gennych i gael Budd-dal Tai neu Gredyd Pensiwn, a byddwch yn cael gwybod am hyn pan fyddwch yn gwneud cais. Gallai hyn eich helpu gyda rhai o'r taliadau gwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Tai a Chredyd Pensiwn, gweler yr adran Arian a threth

I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau tai gwarchod yn eich ardal, cysylltwch â'ch cyngor lleol, asiantaethau tai a darparwyr tai ymddeol preifat a threfnwch i ymweld â rhai o'r cynlluniau.

Dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan Directgov