Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Cadw'n Gynnes

Cadw'ch cartref yn gynnes
Taliad Tanwydd Gaeaf
Ffôn 08459 15 15 15

Os ydych yn 60 oed neu hyn ac yn byw’n arferol yn Lloegr neu Gymru, gall y taliad hwn fod i chi. (Weithiau ceir rhai eithriadau. Er enghraifft, os ydych wedi bod yn yr ysbyty am fwy na 52 wythnos.)

Efallai y gallwch hefyd fod yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer yn ystod cyfnodau oer.

Ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw dreth ar unrhyw Daliadau Tanwydd Gaeaf y gallech eu cael.

Os ydych yn 80 oed neu hyn gellwch hefyd fod â hawl i daliad ychwanegol gyda’ch Taliad Tanwydd Gaeaf. Gellwch ddarganfod rhagor am Daliadau Tanwydd Gaeaf ar ein gwefan.

Gallwch hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Taliad Tanwydd Gaeaf neu ffonio'r llinell gymorth ar 0845 9 15 15 15. Mae'r llinell ar agor o 8.30am i 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Codir cyfraddau lleol am y galwadau. (Mae gwasanaeth ffôn testun hefyd ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 601 5613.)