Diogelwch tân
Mae atal tân yn y cartref yn ymwneud â phawb. Ond mae gan bobl hyn fwy o risg rhag tân na grwpiau eraill mewn cymdeithas. Gallwch atal tân drwy gymryd camau syml fel peidio â gadael y ffwrn heb neb i edrych arni pan fyddwch yn coginio, cymryd gofal gydag offer trydanol a diffodd sigaréts a chanhwyllau yn iawn.
Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw neu gael eich anafu yn eich cartref os nad oes gennych larwm mwg. Larwm mwg yw’r ffordd hawsaf o’ch rhybuddio rhag perygl o dân, gan roi amser gwerthfawr i chi i ddianc. Mae’n rhad, yn hawdd i gael gafael arni ac yn hawdd i’w gosod. Does dim esgus rhag peidio â chael un. Profwch eich larymau mwg bob wythnos yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr i wneud yn siwr eu bod yn gweithio’n iawn.
Os ydych yn prynu larwm mwg newydd, ystyriwch cael larwm 10-mlynedd sy’n dod gyda batri wedi’i selio nad oes angen ei newid. Ond peidiwch ag anghofio bod angen profi pob math o larymau unwaith yr wythnos.
Gallwch gael cyngor personol, am ddim, am atal tannau yn eich cartref gan eich gwasanaeth tân ac achub lleol. Bydd diffoddwyr tân hefyd yn fodlon ymweld â'ch cartref i'ch helpu i wneud yn siwr eich bod yn ddiogel. Bydd rhai gwasanaeth tân ac achub yn gosod larymau mwg neu byddant yn sicrhau lleoliad eich larymau er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn y lle gorau yn eich cartref i atal camrybuddion.
I gael cyngor neu wybodaeth, neu i drefnu ymweliad personol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelwch Tân Cymunedol ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer eich sir neu ardal fetropolitan. Dewch o hyd i'w cyfeiriad a'u rhif yn y llyfr ffôn.
Gallwch hefyd gael cyngor a gwybodaeth am ddiogelwch tân ar wefan Diogelwch Tân.


