Canolfannau Cyngor Effeithlonrwydd Ynni
Mae'r cyngor a'r cymorth a gynigir gan y Canolfannau Cyngor Effeithlonrwydd Ynni ar gael yn rhwydd i bawb sydd â diddordeb mewn effeithlonrwydd ynni ac arbed arian ar eu biliau tanwydd.
Mae rhif rhadffon ar gael i'w ffonio a bydd ymgynghorydd yn gofyn rhywfaint o gwestiynau i chi am eich cartref cyn y gallant eich cynghori ar yr opsiynau gorau ar gyfer eich amgylchiadau personol. Efallai y gallant hefyd roi gwybodaeth i chi am grantiau a chynigion yn enwedig y rhai sydd wedi'u hanelu at bobl sy'n 60 oed a throsodd ac sy'n cael budd-daliadau penodol.
Mae Canolfannau Cyngor Effeithlonrwydd Ynni yn ganolfannau lleol sydd wedi'u sefydlu i gynnig cyngor a chymorth diduedd, am ddim, i chi ar sut i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn gyfforddus, ac arbed arian ar eich biliau tanwydd.
I gysylltu â'ch Canolfan Effeithlonrwydd Ynni leol ffoniwch 0800 512 012 (ar gyfer Cymru a Lloegr). Bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo'n awtomatig i'ch canolfan agosaf. Mae'r alwad am ddim a darperir pob cyngor am ddim hefyd.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am sut i arbed arian ar eich biliau tanwydd ar wefan 'Arbed Ynni' yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni


