Canllawiau i'r rhai sy'n cynllunio ymlaen llaw
Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein
Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth - Ffurflen gais
- Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth – argraffu [BR19W]
- Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth - rhyngweithiol [BR19W]
- Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth - [BR19LW]
Argraffwch ffurflen a’i phostio
Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
– argraffu [BR19W] – [ffeil PDF 503kb]
I gael gwybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth efallai y byddwch yn ei gael
pan fyddwch yn ymddeol, argraffwch y ffurflen hon, ei llenwi a’i
phostio atom.
Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
- rhyngweithiol [BR19W] - [ffeil PDF 381kb]
Gallwch hefyd wneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth drwy ddefnyddio’r
fersiwn rhyngweithiol o’r ffurflen. Gellir cwblhau’r ffurflen
hon ar lein ac yna ei hargraffu a’i phostio i ni. Rydym wedi cyflwyno
nodwedd arbennig sydd yn eich galluogi i arbed y ffurflen hon fel rydych
yn ei llenwi i mewn. Dim ond yn yr Adobe Reader 5.1 ac uwch mae’r
nodwedd hwn yn gweithio. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gwblhau
y ffurflen hon mewn un sesiwn mwyach.
Mae’r ddwy ffurflen hon mewn ffurf PDF ac yn dod gyda nodiadau a fydd yn rhoi cymorth i chi eu llenwi i fewn ac yn dweud wrthych lle i anfon y ffurflen wedi i chi ei chwblhau.
Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gallwch ddweud p’un a hoffech i’r rhagolwg gael ei anfon atoch chi neu at rywun arall.
Gwnewch yn siwr bod gennych eich rhif Yswiriant Gwladol (YG), rhif YG eich gwr, gwraig neu bartner sifil (os yw’n berthnasol) yn barod pan fyddwch yn ei llenwi.
Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i:
Future Pension Centre
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
Ar gyfartaledd bydd yn cymryd 12 diwrnod i ddarparu eich rhagolwg o’r dyddiad y derbynnir eich ffurflen gais.
Rhagor o wybodaeth
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am gwblhau eich ffurflen gais rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth cysylltwch Chanolfan Pensiwn y Dyfodol ar 0845 3000 168. Mae’r llinellau ar agor o 8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar ddydd Sadwrn o 9am i 1pm. Codir cyfraddau lleol ar alwadau o linellau daearol BT. Gall cyfraddau ar alwadau o ffonau symudol, cebl a darparwyr rhwydwaith eraill fod yn wahanol. Os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd a bod gennych ffôn testun, ffoniwch ffôn testun 0845 3000 169.
Gallwch hefyd ysgrifennu at y Canolfan Bensiwn y Dyfodol os bydd angen help arnoch i gwblhau eich ffurflen.
I’ch helpu i ddeall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch lwytho ein canllaw: Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth - [BR19LW] - [ffeil PDF 751kb]
Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn
Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain
Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni
I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe
Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau
Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).
I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:
1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych
am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch
i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch
y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.
Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe


