Darparwr/ Ymgynghorydd

Cysylltau perthnasol

Cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid

Cofrestru pensiynau rhanddeiliaid

Os ydych o gwmni gwasanaethau ariannol ac yn dymuno darparu cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid, mae'n rhaid i chi gael cymeradwyaeth treth gan Gyllid y Wlad a chofrestru'ch cynllun neu gynlluniau gyda'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

Mae angen i gynlluniau pensiwn rhanddeiliaid fodloni safonau'r llywodraeth sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo hyblygrwydd a gwerth am arian. Mae'r rhain yn cynnwys isafswm cyfraniadau o £20 neu lai a dim costau trosglwyddo.

Dim ond uchafswm o un y cant o werth y gronfa bensiwn bob blwyddyn i reoli eu cronfa y gall darparwyr cynllun pensiwn rhanddeiliaid ei godi. Gall y darparwr hefyd adennill costau a thaliadau y mae'n rhaid iddynt eu talu am bethau penodol eraill, fel treth stamp. Mae'n rhaid i unrhyw wasanaethau ychwanegol ac unrhyw gostau ychwanegol na chânt eu darparu gan y gyfraith fod yn opsiynol.

I gael rhestr lawn o safonau ar gyfer cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid a manylion am sut i gofrestru, gweler Pensiynau rhanddeiliaid - canllaw i gofrestru fel darparwr cynllun rhanddeiliaid (Saesneg)