Cofrestru awtomatig
Mae’r dystiolaeth yn cynyddu fod defnyddio cofrestru awtomatig yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol o gynyddu lefelau aelodaeth cynlluniau pensiwn yn y gweithle.
Mae’r canllawiau yn gosod barn y Llywodraeth ar yr amgylchiadau
pryd y dylid cofrestru’n awtomatig ar Bensiynau Personol Grwp yn
y gweithle (GPP) neu bensiynau Cyfranddeiliaid (SHP) o fewn y rheoliadau
presennol.
Oni nodir fel arall, mae’r materion a gynhwysir yn y canllawiau
hyn yn berthnasol yng nghyd-destun GPP yn y gweithle a SHP yn unig ac
nid i bensiynau Galwedigaethol.
Bwriedir y canllawiau hyn yn bennaf i gynghori busnesau, a’u hymgynghorwyr neu gynrychiolwyr cyfreithiol, ar y prif faterion rheoleiddio y mae angen iddynt fod yn ymwybodol ohonynt wrth ddefnyddio technegau cofrestru awtomatig yn y gweithle.


