Beth ddylwn ei wneud nesaf?
Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein
Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth

Mae nifer o bethau eraill y gallwch eu gwneud os ydych am ddechrau cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad nawr:
- Gallwch gael gwybod
faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallai fod hawl gennych i’w gael
drwy gael rhagolwg
Bydd y rhagolwg hwn yn rhoi syniad i chi o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei gael gan y Llywodraeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bydd yn eich helpu i benderfynu p’un a ydych yn cynilo digon ar gyfer eich anghenion ymddeol ar hyn o bryd. - Os nad ydych yn perthyn i gynllun pensiwn galwedigaethol, gofynnwch i’ch cyflogwr am wybodaeth am y cynllun maent yn ei gynnig.
- Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol, efallai y bydd eich cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn yn anfon datganiad atoch bob blwyddyn sy’n dangos faint o bensiwn y gallwch ddisgwyl ei gael o’r cynllun pan fyddwch yn ymddeol. Os nad ydych wedi cael datganiad, gallwch ofyn i’ch cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn anfon un atoch.
- Holwch os gall eich cyflogwr roi rhagolwg pensiwn cyfunol
i chi – sef rhagolwg pensiwn sy’n dangos manylion eich Pensiwn
y Wladwriaeth a’ch pensiwn galwedigaethol gyda’i gilydd.
Bydd hyn yn eich helpu i ddeall beth fydd cyfanswm incwm eich pensiwn
unwaith y byddwch wedi ymddeol.
Cael gwybod mwy am ragolygon pensiwn cyfunol
- Os ydych yn hunangyflogedig ac nad oes gennych ail bensiwn eisoes,
ewch at ymgynghorydd ariannol annibynnol i gael gwybod pa bensiwn personol
neu bensiwn cyfranddeiliaid fyddai’n iawn i chi.
I ddod o hyd i Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol lleol ewch i wefan IFA Promotion
- Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn personol, bydd darparwr eich pensiwn yn anfon datganiad atoch bob blwyddyn sy’n cynnwys rhagolwg pensiwn unigol ar gyfer y cynllun rydych yn perthyn iddo. Bydd hyn yn dweud wrthych faint y gallai fod hawl gennych i’w gael pan fyddwch yn ymddeol.
- Os credwch fod gennych un neu fwy o bensiynau cwmni neu bensiynau
personol hen ac nad oes gennych fanylion llawn ar eu cyfer, cysylltwch
â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau. Efallai eich bod wedi
colli cysylltiad â’ch cynllun pensiwn, o bosibl oherwydd
newid mewn swyddi , neu efallai bod y cwmni wedi newid ei enw. Beth
bynnag fo’r rheswm, os nad ydych mewn cysylltiad â’r
cwmni bellach dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau,
a all roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch helpu i
olrhain eich pensiwn.
Cael gwybod mwy am y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau
Gwneud cais am gael olrhain pensiwn


