Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Cychwyn

Beth yw pensiwn a pham bod angen i mi gael un?

Mae pensiwn yn ffynhonnell o incwm rheolaidd i fyw arno pan fyddwch yn ymddeol a dyma un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gynilo arian ar gyfer eich ymddeoliad. Mae hyn oherwydd y gallwch gael rhyddhad treth ar yr arian rydych yn ei gynilo mewn cynllun pensiwn.

Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yn gweithio yn yr un ffordd i bob pwrpas. Tra byddwch yn gweithio, byddwch yn talu rhan fechan o'ch cyflog i mewn i'r gronfa bensiwn - neu, yn achos Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn talu Yswiriant Gwladol i'r Llywodraeth yn uniongyrchol o'ch cyflog. Pan fyddwch wedi rhoi'r gorau i weithio, neu wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch wedyn yn cael taliadau rheolaidd yn seiliedig ar y swm rydych wedi'i gyfrannu.

Mae angen i bawb gael arian i fyw arno pan fyddant yn ymddeol ond ni fydd llawer o bobl yn treulio digon o amser yn meddwl am gynilo hirdymor. Oherwydd bod mwy o bobl yn byw'n hirach, gallech fod wedi ymddeol am gymaint â thraean o'ch bywyd. Felly pan fyddwch yn ymddeol, bydd angen i chi dalu biliau o hyd a bydd angen i chi gael arian i wneud y gorau o'r cynnydd yn eich amser hamdden.

Mae nifer o wahanol fathau o bensiwn:

  • Pensiwn y Wladwriaeth - mae hwn yn cynnwys Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth
  • Pensiynau preifat - mae'r rhain yn cynnwys pensiynau galwedigaethol (a elwir hefyd yn bensiynau gwaith neu bensiynau cwmni) a phensiynau personol (yn cynnwys pensiynau cyfranddeiliaid)