Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Sut y byddaf yn gwybod a ddylwn gynilo mwy?

Er mwyn eich helpu i benderfynu a ddylech gynilo mwy ar gyfer eich ymddeoliad, mae angen i chi adolygu eich cynilion.

  • Mae nifer o bethau a allwch wneud os ydych eisiau paratoi tuag at eich ymddeoliad nawr.
  • Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol, gall eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn anfon datganiad atoch bob blwyddyn sy'n dangos faint o bensiwn y gallwch ddisgwyl ei gael o'r cynllun pan fyddwch yn ymddeol. Os nad ydych wedi cael datganiad, gallwch ofyn i'ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn anfon un atoch.
  • Os ydych yn gyflogedig ar hyn o bryd ac yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol, gallai fod yn werth i chi ganfod a all eich cyflogwr roi rhagolwg pensiwn cyfunol i chi - hynny yw, rhagolwg pensiwn sy'n dangos manylion eich Pensiwn y Wladwriaeth a phensiwn eich cwmni gyda'i gilydd.
    Cael gwybod mwy am ragolygon pensiwn cyfunol
  • Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn personol, bydd darparwr eich pensiwn yn anfon datganiad atoch bob blwyddyn sy'n cynnwys rhagolwg pensiwn personol ar gyfer y cynllun rydych yn perthyn iddo. Bydd hyn yn dweud wrthych faint y gallai fod gennych hawl i'w gael pan fyddwch yn ymddeol.
  • Os credwch eich bod yn aelod o un neu fwy o hen gynlluniau pensiwn cwmni neu bensiwn personol ac nad oes gennych eu manylion llawn, efallai y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu i ddod o hyd iddynt.
    Cael gwybod mwy am y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau

Os nad ydych yn credu y bydd gennych ddigon o arian i gynnal eich hun pan fyddwch yn ymddeol, dylech ystyried p'un a allwch fforddio cynilo mwy drwy gynyddu eich cyfraniadau i bensiwn presennol, cael pensiwn ychwanegol, neu ymchwilio i opsiynau cynilo eraill

Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein

Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

A allaf gael rhagolwg?

Sut i wneud cais am ragolwg

Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth Logo e-wasanaeth