Sut i gael mwy o arian
Beth os byddaf am gael mwy o arian na’m Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddaf yn ymddeol?
Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi incwm sylfaenol i chi pan fyddwch yn ymddeol ond eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar y ffordd o fyw yr hoffech ei chael pan fyddwch yn ymddeol, a'r hyn sydd angen i chi ei wneud i'w chyflawni.
Ar y tudalennau ar bensiwn galwedigaethol, personol a chyfranddeiliaid, ceir gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth i'ch helpu i ddechrau cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad nawr.
Mae nifer o opsiynau y gallwch eu hystyried i'ch helpu i gynyddu eich incwm pan fyddwch yn ymddeol, yn cynnwys cynilo mewn cynllun pensiwn galwedigaethol neu bersonol, neu weithio am gyfnod hirach.
Mae pensiynau preifat yn fuddsoddiad hirdymor. Mae'r safle hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi am yr opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd. I gael rhagor o wybodaeth i'ch helpu i benderfynu beth sydd orau i chi, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gysylltu â'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) neu'r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau. Neu, gallwch gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol (ond nodwch efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaethau).
Ffoniwch y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar 0845 601 2923.
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.00am i 5.00pm.
Codir cyfraddau lleol am alwadau.
I gael gwybod mwy
ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Ffoniwch yr FSA ar 0845 606 1234 (llinell gymorth i ddefnyddwyr)
Ffôn testun: 0845 730 0204
I gael gwybod mwy ewch i wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
I ddod o hyd i Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol lleol ewch i wefan IFA Promotion
Beth yw manteision cynilo mewn cynllun pensiwn preifat?
Mae pensiynau preifat yn cynnwys pensiynau galwedigaethol, personol a chyfranddeiliaid. Ceir dwy brif fantais o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad mewn cynllun pensiwn preifat.
1. Gallwch gael rhyddhad treth ar yr arian rydych yn ei gynilo mewn cynllun pensiwn preifat.
2. Os ydych yn gyflogedig, gall eich cyflogwr ddewis eich helpu i gynilo mwy drwy wneud cyfraniad ychwanegol i'ch cynllun pensiwn galwedigaethol neu gynllun pensiwn personol grwp.
Cofiwch
- Os nad ydych yn gweithio, neu os ydych yn hunangyflogedig, gallwch barhau i gael rhyddhad treth ar yr arian y byddwch yn ei gynilo mewn cynllun pensiwn personol neu gyfranddeiliaid.
- Nid oes unrhyw gynnyrch ariannol, yn cynnwys pensiynau, yn rhydd o unrhyw risg: efallai y bydd swm y pensiwn a gewch yn dibynnu pa mor dda y mae buddsoddiadau'r cynllun wedi perfformio erbyn yr adeg y byddwch yn ymddeol.
Cael gwybod mwy am ryddhad treth mewn cynlluniau pensiwn galwedigaethol


