Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Pensiynau cyfranddeiliaid

Gall pensiynau cyfranddeiliaid fod yn ddewis da i chi os na allwch fanteisio ar bensiwn galwedigaethol neu bensiwn personol sy’n cynnig gwerth da. Os ydych yn hunangyflogedig, neu os nad ydych yn ennill cyflog, gallai pensiwn cyfranddeiliaid hefyd gynnig yr opsiwn gorau i chi.

Pensiynau pwrcasu arian yw pensiynau cyfranddeiliaid. Fel gyda mathau eraill o bensiynau personol, nid yw’r pensiwn a gewch yn dibynnu ar eich cyflog a chaiff yr arian y byddwch yn ei gynilo ei roi mewn buddsoddiadau ar eich cyfer. Yna defnyddir eich cronfa i brynu blwydd-dal gan gwmni yswiriant, i roi incwm rheolaidd i chi pan fyddwch yn ymddeol.

Cael gwybod mwy am gynlluniau pwrcasu arian a blwydd-daliadau

Beth yw manteision pensiwn cyfranddeiliaid?

Ceir rhai gwahaniaethau rhwng pensiynau cyfranddeiliaid a mathau eraill o bensiynau personol. Mae’n rhaid i bensiynau cyfranddeiliaid fodloni safonau penodol a bennwyd gan y Llywodraeth i sicrhau eu bod yn cynnig gwerth am arian, hyblygrwydd a diogelwch.

  • Byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau hyd at derfynau Cyllid a Thollau EM. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu (gan ddefnyddio’r cyfraddau treth sylfaenol ar gyfer 2006/2007) ar gyfer pob £78 y byddwch yn ei dalu i mewn i bensiwn persnol, bydd y Llywodraeth yn ychwanegu £22. A pho fwyaf y byddwch yn ei gynilo, y mwyaf o arian a gewch mewn rhyddhad treth
  • Mae’r taliadau wedi’u capio - ceir cyfyngiad ar faint y mae’n rhaid i chi ei dalu i ddarparwr y gronfa bensiwn
  • Mae’r taliadau gofynnol yn isel
  • Maent yn fwy hyblyg na llawer o gynlluniau pensiwn preifat eraill - gallwch ddewis pryd a pha mor aml y byddwch yn talu i mewn i’r cynllun ac ni chewch eich cosbi am fethu taliad
  • Gall pobl eraill, yn ogystal â’ch cyflogwr, dalu i mewn i bensiwn cyfranddeiliaid ar eich rhan. Mae hyn yn golygu y gall partneriaid neu aelodau eraill o’ch teulu eich helpu i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad
  • Nid oes angen i chi fod yn gweithio i gynilo mewn cynllun pensiwn cyfranddeiliaid

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau i gael rhagor o wybodaeth am bensiynau cyfranddeiliaid:

Ffoniwch y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar 0845 601 2923

Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.00am i 5.00pm. Codir cyfraddau lleol am alwadau.

I gael gwybod mwy ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau

Darllenwch neu argraffwch Pensiynau personol a phensiynau cyfranddeiliaid – Eich canllaw (PM4W)

I gael gwybod mwy am bensiynau cyfranddeiliaid a chynnyrch cynilo arall ewch i wefan Stakeholder Saving y llywodraeth