Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Pryd y byddaf yn ei gael?

Fel gyda mathau eraill o bensiynau personol, fel arfer byddwch yn gallu dechrau hawlio eich pensiwn a buddiannau pan fyddwch yn 50 oed (er mai 55 fydd yr oedran cymhwyso i bob pensiwn fel arfer erbyn 2010), ond po hiraf y byddwch yn parhau i weithio a thalu i mewn i’ch cynllun, y mwyaf o arian y byddwch yn debygol o’i gael pan fyddwch yn penderfynu ymddeol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis aros hyd nes y byddant yn 60 neu’n 65. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi ymddeol o’ch gwaith i gael buddiannau eich pensiwn.

Faint y byddaf yn ei dalu?

Un o fanteision pensiynau cyfranddeiliaid yw y gallwch ddewis fain i’w dalu i mewn – a gallwch wneud cyfraniadau pryd bynnag y bydd gennych arian i’w sbario. I sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o’ch pensiwn, mae’n well gwneud taliadau rheolaidd os yw hynny’n bosibl, ond gallwch roi’r gorau i’r taliadau am gyfnod os bydd angen heb orfod talu unrhyw beth. Ond cofiwch po leiaf o arian y byddwch yn ei roi i mewn i’ch cynllun pensiwn nawr, y lleiaf y byddwch yn ei gael fel incwm pan fyddwch yn ymddeol.

Faint y byddaf yn ei gael?

Mae hynny’n dibynnu ar faint rydych wedi’i dalu i mewn i’ch cynllun pensiwn cyfranddeiliaid, a pha mor dda y mae buddsoddiadau’r pensiwn wedi perfformiad erbyn yr adeg y byddwch yn ymddeol. Bydd darparwr eich cynllun pensiwn yn anfon rhagolwg pensiwn atoch bob blwyddyn a fydd yn dweud wrthych beth yw gwerth eich cronfa a faint y gallwch ddisgwyl ei gael pan fyddwch yn ymddeol os byddwch yn parhau i gyfrannu ar eich lefel bresennol.

A allaf symud i gynllun pensiwn gwahanol?

Os byddwch am symud eich cronfa cyfranddeiliaid i ddarparwr pensiwn arall neu i gynllun pensiwn cyfranddeiliaid arall, fel arfer ni chewch eich cosbi am drosglwyddo.

A oes rhaid i’m cyflogwr gynnig aelodaeth o gynllun pensiwn cyfranddeiliaid?

Oes – mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gwmnïau sy’n cyflogi pump o bobl neu fwy gynnig cyfle i’w cyflogeion ymuno â chynllun pensiwn cyfranddeiliaid.

A allaf gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth o hyd?

Os ydych yn ennill rhwng £84 a £240 yr wythnos (ar gyfer 2006/2007), bydd hawl gennych i gael peth Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hyd yn oed os ydych yn cyfrannu at bensiwn cyfranddeiliaid sydd wedi’i eithrio. Mae hyn oherwydd yr help ychwanegol y mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn ei roi i bobl ar gyflog is.