A allaf gynilo mewn cynlluniau pensiwn lluosol?
Gallwch - ers 6 Ebrill 2006, mae rheolau treth newydd wedi golygu ei bod yn haws cynilo mewn mwy nag un pensiwn galwedigaethol neu bensiwn personol. Mae’r rheolau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws i gynilo mewn cynllun pensiwn galwedigaethol a chynllun pensiwn personol ar yr un pryd.
Gall cynilo mewn mwy nag un cynllun pensiwn roi hyblygrwydd a dewis, ond gall hefyd olygu eich bod yn talu mwy mewn costau gweinyddol. Felly gall yr hyn sydd orau i chi ddibynnu ar eich amgylchiadau, eich anghenion ymddeol a faint rydych wedi’i gynilo mewn pensiwn eisoes.
Er mwyn eich helpu i benderfynu beth yw’r dewis gorau i chi, gallai fod yn ddefnyddiol i chi ymgynghori ag ymgynghorydd ariannol annibynnol.
I ddod o hyd i Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol lleol ewch i wefan IFA Promotion
A oes terfyn ar faint y gallaf ei gynilo mewn cynllun pensiwn preifat?
Oes - oherwydd eich bod yn cael rhyddhad treth ar yr arian rydych yn ei gynilo mewn cynllun pensiwn, mae cyfyngiadau ar faint y gallwch ei gynilo bob blwyddyn a faint o ryddhad treth y gallwch ei gael ar eich cynilion. Ar 6 Ebrill 2006, cyflwynodd y Llywodraeth set symlach o gyfyngiadau ar gyfer pob cynllun pensiwn galwedigaethol a phersonol. Bydd y rheolau newydd hyn yn galluogi’r rhan fwyaf o bobl i gynilo mwy tuag at bensiwn a chyfandaliad ymddeol a chael rhyddhad treth ar yr arian hwn. Gallwch gael gwybod mwy am y rheolau newydd hyn a faint y gallwch ei gynilo gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), Cyllid a Thollau EM neu ymgynghorydd ariannol annibynnol.
Ffoniwch linell gymorth i ddefnyddwyr yr FSA:
0845 606 1234
Ffôn testun: 0845 730 020
I ddod o hyd i Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol lleol ewch i wefan IFA Promotion
Rhif ffôn Cyllid a Thollau EM:
0845 302 1479
Mae’r llinellau ar agor o 8.30 am i 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd
Iau, ac o 8.30 am i 4.30 pm ar ddydd Gwener.
I gael gwybod mwy ewch i wefan Cyllid a Thollau EM


