Pethau i'w cofio
Mae dewis cynllun pensiwn personol yn benderfyniad ariannol pwysig ac mae llawer o bethau i’w hystyried:
- Cyn i chi benderfynu trefnu pensiwn personol, dylech gymharu’r costau y bydd yn rhaid i chi eu talu gyda chostau pensiwn cyfranddeiliaid (gweler tudalen 40 i gael rhagor o wybodaeth am bensiynau cyfranddeiliaid). A dylech sicrhau mai’r pensiwn personol a ddewiswch yw’r un cywir i chi oherwydd efallai y codir taliadau ychwanegol arnoch os byddwch yn penderfynu trosglwyddo i fath gwahanol o gynllun.
- Beth yw’r rheolau ar wneud cyfraniadau? – Er enghraifft, a allwch newid y swm rydych yn ei gyfrannu os bydd eich amgylchiadau’n newid?
- Faint y gallwch ei gynilo ac a yw’r cynllun pensiwn wedi’i ‘eithrio’ o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth?
- Sut y caiff yr arian ei fuddsoddi?
- Faint fydd darparwr y pensiwn yn ei godi arnoch am sefydlu eich pensiwn ac ar gyfer costau gweinyddol? Cofiwch nad yw costau gweinyddu uchel yn angenrheidiol yn golygu ei fod yn bensiwn da.
Oherwydd yr holl bethau hyn, mae’n syniad da gwneud gwaith ymchwil. Un lle da i ddechrau yw’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA), sy’n cyhoeddi rhestrau o’r holl ddarparwyr pensiwn a awdurdodir ganddo, yn ogystal â darparu tablau sy’n cymharu cynlluniau pensiwn gwahanol.
Gallech hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau i gael rhagor o wybodaeth am bensiynau personol, neu dalu ymgynghorydd ariannol annibynnol i’ch helpu i ddewis pensiwn personol addas.
Ffoniwch y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar
0845 601 2923
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.00am i 5.00pm.
Codir cyfraddau lleol am alwadau
I gael gwybod mwy
ewch i wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau
Ffoniwch linell gymorth i ddefnyddwyr yr FSA i gael gwybodaeth am bensiynau
personol, darparwyr awdurdodedig a blwydd-daliadau ar
0845 606 1234
Ffôn testun: 0845 730 0204
I ddod o hyd i Ymgynghorydd Ariannol
Annibynnol lleol ewch i wefan IFA Promotion
Fel gydag unrhyw gytundeb ariannol neu amodol arall a wnewch, mae’n bwysig ystyried y cyngor a gewch yn ofalus. Dylech ddarllen y print mân bob tro cyn llofnodi neu gytuno ar unrhyw beth.
Pensiynau personol grwp
Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn trefnu i ddarparwr pensiwn gynnig pensiwn personol i’w cyflogeion yn hytrach na phensiwn galwedigaethol. Gelwir pensiynau personol a drefnir yn y ffordd hon yn ‘bensiynau personol gr_p’. Holwch p’un a yw eich cyflogwr wedi gwneud y trefniant hwn a ph’un a yw’n addas i chi.
Er y cyfeirir atynt fel pensiynau cwmni weithiau, ni chânt eu rhedeg gan gyflogwyr ac ni ddylid eu cymysgu â phensiynau galwedigaethol.
Ceir dwy fantais bwysig o drefnu pensiynau personol gr_p yn hytrach na phensiynau personol unigol.
1. Am eu bod yn cael eu trefnu gan gyflogwr yn aml, mae’n fwy tebygol y bydd eich cyflogwr hefyd yn talu i mewn i’r cynllun gr_p ar eich rhan na phe byddech yn trefnu pensiwn personol ar eich pen eich hun.
2. Efallai bod eich cyflogwr wedi gallu negodi amodau arbennig fel taliadau gostyngedig gyda’r darparwr.
Ond os byddwch yn gadael eich cyflogwr, mae’n debygol y byddant yn ei rhwystro rhag talu i mewn i’ch cynllun pensiwn. At hynny, efallai y byddwch yn colli unrhyw amodau arbennig y mae eich cyflogwr wedi’u negodi ar gyfer y cynllun gr_p. Holwch eich cyflogwr gymaint ag y gallwch cyn i chi ymuno neu adael – a chysylltwch â darparwr y cynllun pensiwn i gael gwybod beth yw eich opsiynau.
Darllenwch neu argraffwch Pensiynau personol a phensiynau cyfranddeiliaid – Eich canllaw (PM4W)


