Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Pryd y byddaf yn ei gael?

Mae hyn yn dibynnu ar reolau’r cynllun rydych yn perthyn iddo. Fel arfer byddwch yn gallu dechrau hawlio eich pensiwn a’ch buddiannau pan fyddwch yn 50 oed (er mai 55 fydd yr oedran cymhwyso i bob pensiwn fel arfer erbyn 2010). Ond po hiraf y byddwch yn parhau i weithio a thalu i mewn i’ch cynllun, y mwyaf o arian rydych yn debygol o’i gael pan fyddwch yn penderfynu ymddeol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis aros hyd nes y byddant yn 60 neu’n 65. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi ymddeol o’ch gwaith i gael buddiannau eich pensiwn.

Pryd y byddaf yn gwneud taliadau?

Fel arfer, bydd eich darparwr yn gofyn i chi wneud taliadau rheolaidd i mewn i’ch pensiwn personol bob mis. Ond mae’n well gan rai pobl, yn enwedig pobl hunangyflogedig, wneud cyfraniadau bob blwyddyn.

Faint y byddaf yn ei gael?

Mae swm y pensiwn a gewch yn dibynnu ar faint o arian a dalwyd i mewn i’ch cronfa erbyn yr amser y byddwch yn ymddeol a pha mor dda y mae buddsoddiadau’r cynllun wedi perfformio. Bob blwyddyn bydd eich darparwr yn anfon rhagolwg atoch o werth cronfa eich pensiwn personol. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei gael pan fyddwch yn ymddeol - ac yn eich helpu i benderfynu a fydd angen i chi gynilo mwy.