Pensiynau galwedigaethol
Beth yw cynllun pensiwn galwedigaethol?
Mae cynllun pensiwn galwedigaethol yn drefniant a wneir gan gyflogwyr i ddarparu pensiynau i’w cyflogeion pan fyddant yn ymddeol. Gelwir pensiynau galwedigaethol yn bensiynau cwmni neu bensiynau gwaith hefyd. Drwy beidio ag ymuno gallech golli allan ar ryddhad treth yn ogystal â chyfraniadau tuag at eich pensiwn a wneir gan eich cyflogwr. Gallwch gael pensiwn galwedigaethol yn ogystal ag unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth y gallai fod gennych hawl i'w gael.
Mae tair mantais bwysig i bensiwn galwedigaethol.
1. Rhyddhad treth: byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau. Yn fras mae hyn yn golygu gyda chyfradd sylfaenol o dreth incwm o 22%, am bob £100 y byddwch yn ei dalu i mewn, y caiff y swm a dalwch mewn treth ei leihau £22 (yn seiliedig ar y flwyddyn dreth 2006/2007). Gyda chyfradd uwch o dreth incwm o 40%, am bob £100 a fydd yn mynd i mewn i'ch pensiwn, caiff y swm a dalwch mewn treth ei leihau £40 (yn seiliedig ar y flwyddyn dreth 2006/2007).
(Gallwch gysylltu â darparwr eich pensiwn i gael gwybodaeth fanylach am sut mae rhyddhad treth yn gweithio mewn cynlluniau pensiwn galwedigaethol. Neu gallwch ffonio Cyllid a Thollau EM)
2. Cyfraniadau cyflogwyr: mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr sy'n rhedeg cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn gwneud cyfraniadau i'r cynllun yn ogystal â'r cyfraniadau a delir gan yr aelod.
3. Buddiannau ychwanegol: yn aml mae cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn cynnig buddiannau eraill fel yswiriant bywyd neu bensiwn i'ch dibynyddion os byddwch farw. Bydd angen i chi holi darparwr eich cynllun pensiwn beth yn union yw'r buddiannau.
Ceir dau fath o bensiwn galwedigaethol, ac mae gan y ddau ymddiriedolwyr neu reolwyr cynllun i ofalu am fuddiannau’r aelodau.
Cynlluniau pensiwn ar sail cyflog (a elwir hefyd yn
gynlluniau buddiannau diffiniedig)
Mewn cynllun ar sail cyflog, mae’r pensiwn a gewch yn seiliedig
yn bennaf ar nifer y blynyddoedd rydych yn perthyn i’r cynllun ac
ar eich enillion. Gall eich pensiwn fod yn seiliedig ar eich enillion
pan fyddwch yn ymddeol neu’n gadael y cynllun, neu eich enillion
ar gyfartaledd yn ystod yr amser y buoch yn cyfrannu at y cynllun. Mewn
rhai cynlluniau dim ond eich cyflog sylfaenol sy’n cyfrif tuag at
eich pensiwn, ond mae eraill hefyd yn cynnwys taliadau ychwanegol fel
goramser a bonysau. Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau i mewn
i’r cynllun yn ychwanegol at y rhai hynny y bydd eich cyflogwr yn
eu talu.
Cynlluniau pensiwn pwrcasu arian (a elwir hefyd yn gynlluniau cyfraniadau
diffiniedig)
Mewn cynllun pwrcasu arian, caiff eich cyfraniadau (ynghyd ag unrhyw gyfraniadau
gan eich cyflogwr) eu buddsoddi ac mae’r swm a gewch pan fyddwch
yn ymddeol yn dibynnu’n bennaf ar gyfanswm yr arian rydych chi a’ch
cyflogwr wedi’i dalu i mewn i’r cynllun dros y blynyddoedd
a sut mae’r buddsoddiad wedi tyfu. Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch
ddewis cymryd rhywfaint o’ch cynilion pensiwn fel cyfandaliad di-dreth.
Yna bydd y cynllun yn defnyddio gweddill y gronfa i dalu pensiwn i chi
neu i brynu blwydd-dal gan gwmni yswiriant i roi incwm rheolaidd i chi
pan fyddwch yn ymddeol. Dyna pam y’u gelwir yn gynlluniau ‘pwrcasu
arian’ - byddwch yn cyfnewid eich cronfa am incwm rheolaidd am weddill
eich bywyd.
Pethau i’w cofio pan fyddwch yn ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol:
- Cyn i chi ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol, un o’r pethau pwysicaf i’w wneud yw holi faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu – a faint fydd cyfraniad eich cyflogwr.
- Mae cynllun pensiwn galwedigaethol yn gysylltiedig â’ch swydd. Felly os byddwch yn gadael eich swydd, bydd angen i chi holi beth fydd yn digwydd i’ch pensiwn. Efallai y gallwch drosglwyddo eich pensiwn i gynllun galwedigaethol arall. Mae’n dibynnu ar p’un a fydd eich cyflogwr newydd yn derbyn y trosglwyddiad ai peidio.
- Os byddwch yn penderfynu cadw eich buddiannau yng nghynllun pensiwn galwedigaethol eich cyflogwr blaenorol, gallwch ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol arall o hyd.
- Nid oes unrhyw gynnyrch ariannol, yn cynnwys pensiynau, yn rhydd o unrhyw risg. Er enghraifft, gall busnes eich cyflogwr fynd i’r wal, neu gall benderfynu newid, neu gau, ei gynllun pensiwn galwedigaethol am reswm arall, a allai olygu eich bod yn cael llai na’r hyn roeddech wedi’i ddisgwyl. Hefyd, efallai y bydd faint o bensiwn a gewch yn dibynnu pa mor dda y mae buddsoddiadau’r cynllun wedi perfformio erbyn yr adeg y byddwch yn ymddeol.
Argraffwch neu darllenwch Pensiynau galwedigaethol – Eich canllaw (PM3W)
Os nad ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn galwedigaethol, holwch os yw eich cyflogwr yn cynnig un. Ac, os ydych eisoes yn talu i mewn i gynllun pensiwn galwedigaethol, cofiwch efallai y gallwch gynyddu’r swm rydych yn ei dalu i mewn. Siaradwch â’ch cyflogwr i gael rhagor o wybodaeth.


