Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol

Beth yw Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

Mae'r Llywodraeth yn talu Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i bobl sy'n gwneud cais amdano ac sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Byddwch yn gymwys i'w gael os byddwch:

  • yn talu;
  • yn cael eich trin fel pe baech wedi talu; neu
  • yn cael eich credydu â

chyfraniadau Yswiriant Gwladol am nifer penodol o flynyddoedd.

Cael gwybod mwy am dalu Yswiriant Gwladol

O fis Ebrill 2010, gallech gael eich credydu â chyfraniadau ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn:

  • cael Budd-dal Plant i blentyn o dan 12 oed
  • gofalu am rywun sâl neu anabl am o leiaf 20 awr
  • gofalwr maeth cymeradwy

Os byddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd cyfnodau lle y byddwch wedi cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref cyn hyn yn cael eu troi yn gredydau.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn cymryd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn syth allan o'ch cyflog. Gallwch weld faint rydych yn ei dalu ar eich slip cyflog. Bydd eich cyflogwr hefyd yn talu Yswiriant Gwladol i chi. Os ydych yn hunangyflogedig, eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau eich bod yn talu eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun.

Os nad ydych wedi gweithio drwy'r adeg efallai y gallwch gael credydau ar gyfer cyfnodau pan oeddech allan o waith, pan oedd gennych salwch neu anaf hirdymor, neu pan oeddech yn cael Lwfans Gofalwr am eich bod yn gofalu am rywun â salwch neu anabledd difrifol. Mae hyn yn golygu y bydd y Llywodraeth yn ychwanegu rhai cyfraniadau i'ch cofnod Yswiriant Gwladol i chi - felly byddwch yn parhau i adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer y blynyddoedd hynny.

Efallai y gallwch hefyd gael help drwy Ddiogelwch Cyfrifoldebau'r Cartref (HRP) i ddiogelu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os ydych:

  • yn gofalu am blentyn o dan 16 oed a'ch bod yn cael Budd-dal Plant
  • yn gofalu am berson sâl neu anabl
  • yn ofalwr maeth a gymeradwywyd

Nid yw HRP yn eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond mae'n lleihau nifer y blynyddoedd y mae angen i chi fod wedi bod yn talu cyfraniadau i gael Pensiwn y Wladwriaeth.

Cael gwybod mwy am HRP