Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Sut mae'n cael ei weithio allan?

Mae pobl yn cael symiau gwahanol o Bensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar faint o flynyddoedd y buont yn talu, yn cael eu trin fel be baent wedi talu neu eu credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gelwir y rhain yn flynyddoedd cymhwyso.

Oherwydd bod oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol i ddynion a merched ar hyn o bryd, mae nifer y blynyddoedd cymhwyso ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn yn wahanol ar hyn o bryd:

  • Fel arfer mae'n rhaid i ferched gael rhwng 39 a 44 o flynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn, yn dibynnu ar y dyddiad y byddant yn cyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth.
  • Fel arfer mae'n rhaid i ddynion gael 44 o flynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn.
  • I gael isafswm Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (25% o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn) fel arfer bydd angen 10 neu 11 o flynyddoedd cymhwyso arnoch, yn dibynnu ar eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os oes gennych lai o flynyddoedd cymhwyso na hyn, fel arfer ni fyddwch yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
  • Os oes gennych Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref, bydd nifer y blynyddoedd cymhwyso y bydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu lleihau.

Dim ond 30 o flynyddoedd cymhwyso fydd eu hangen ar bobl sy’n cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2010. Bydd unrhyw Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref a ddyfarnwyd iddynt yn cael eu trosi yn gredydau.

Os ydych am gynyddu eich blynyddoedd cymhwyso, efallai y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol i gynyddu swm y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a gewch. Fodd bynnag, unwaith y byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth llawn (neu'n bod hawl gennych i'w gael), ni allwch ychwanegu mwy.

Bydd nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn yn lleihau i 30 i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny.