Rwy’n cynllunio ymlaen llaw

Cysylltau perthnasol

Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol

Beth yw Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth?

Telir Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth i chi gan y Llywodraeth bob wythnos. Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich enillion a'ch cofnod Yswiriant Gwladol drwy gydol eich bywyd gwaith. Nid oes rhaid i chi fod yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Gelwir eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth, yr arferwyd ei alw yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS).

Efallai y byddwch yn cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a rennir os byddwch yn ysgaru neu os caiff eich priodas ei diddymu ar ôl mis Rhagfyr 2000 neu os daw eich partneriaeth sifil i ben.

Ni allwch gael unrhyw Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwch fel enillydd hunangyflogedig.

Gallwch hefyd gael Budd-dal Ymddeol Graddedig os gwnaethoch dalu digon o gyfraniadau graddedig yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 1961 i fis Ebrill 1975.

A all pawb gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth?

Na. Ni allwch adeiladu eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth am unrhyw gyfnod pan:

  • nad ydych yn gweithio (ond gweler isod)
  • rydych yn hunangyflogedig
  • rydych yn ennill llai na swm penodol y flwyddyn (£4,680 ar gyfer 2008/2009)
  • rydych wedi eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ac yn hytrach yn talu i mewn i bensiwn personol ac yn ennill mwy na £13,500 ar gyfer 2008/2009
  • rydych wedi eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ac yn hytrach yn talu i mewn i gynllun pensiwn galwedigaethol ac yn ennill mwy na £31,100 (yn 2008/2009).

Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gall gofalwyr a phobl â salwch ac anabledd hirdymor adeiladu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hyd yn oed os nad ydynt yn gweithio.

Cael gwybod mwy am eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth