Cwestiynau a ofynnir yn aml
Pryd y byddaf yn ei gael?
Gallwch ddechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Faint y byddaf yn ei dalu?
Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn seiliedig ar swm yr enillion yr ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol arnynt neu'n cael eich trin fel pe baech wedi eu talu. Er enghraifft, os ydych yn gweithio neu'n ennill rhwng £87 a £100 yr wythnos yn 2007/2008 gan gyflogwr unigol, cewch eich trin fel pe baech wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Faint ydw i'n ei gael?
Mae swm Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a gewch yn gysylltiedig â'ch enillion, sy'n golygu po fwyaf yr oeddech yn ei ennill (hyd at derfyn enillion uwch Yswiriant Gwladol, sef £34,840 ar gyfer 2007/08), y mwyaf y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth. Fodd bynnag, ers 2002, gall pobl sy'n ennill cyflog isel a chymedrol gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth mwy hael. Hefyd, mewn rhai achosion, gall gofalwyr a phobl â salwch neu anabledd hirdymor adeiladu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.


