Cyfrifon Personol a Chofrestriad Awtomatig
Cyfrifon Personol a newidiadau i bensiynau galwedigaethol
Buasai’r Mesur Pensiynau sy’n mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd yn rhoi cyfle i holl weithwyr cymwys rhwng 22 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth i gynilo i bensiwn gyda cyfraniadau gan e’u cyflogwr. O 2012, mae wedi ei gynllunio fod holl weithwyr cymwys yn cael eu cofrestu’n awtomatig i un ai cynllun pensiwn gwei thle o ansawdd da neu i gynllun cyfrifon personol ( os nad ydynt yn barod mewn cynllun o’r fath)
Cofrestru awtomatig
Mae cofrestru awtomatig yn golygu yn lle dewis un a i ymuno â cynllun pensiwn gweithle wedi ei ddarparu gan eu cyflogwr, bydd yn rhaid i holl weithwyr cymwys benderfynu’n weithredol i beidio â bod mewn cynllun, os am unrhyw reswm maent yn teimlo nad yw cynilo mewn cynllun iddynt hwy.
Cyfrifon Personol
Bydd cynllun Cyfrifon Personol yn gynllun pensiwn newydd, syml, cost isel wedi’i anelu at weithwyr incwm canolig i isel, sydd ddim ar hyn o bryd gyda mynediad i gynllun pensiwn galwedigaethol.
Cyfraniad lleiafswm cyflogwr
Bydd dyletswydd ar gyflogwyr i ddarparu cynllun pensiwn gweithle neu cyfrif personol i’w cyflogai ac hefyd i gyfrannu lleiafswm o 3% ( ar fand o enillion) i bensiwn cyflogai. Bydd hyn eistedd wrth ymyl 4% gan y cyflogai (ar yr un band o enillion) ac o gwmpas 1% gan y Llywodraeth mewn ffurf rhyddhad treth.
Cewch hyd i fwy am y diwygiadau pensiwn hyn ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.


