Diwygio Pensiynau

Cyflwyniad

Diwygio Pensiynau

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud yn ddiweddar i’r system Pensiwn y Wladwriaeth. Yn bennaf bydd y newidiadu hyn ond yneffeithio arnoch os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010.

Bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud hi’n haws i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ô6 Ebrill 2010 i adeiladu darpariaeth Pensiwn y Wladwriaeth llawn.

Cyflwynwyd y newidiadau hyn gan y Ddeddf Pensiynau 2007, a ddaeth yn gyfraith ar 25 Gorffennaf 2007.

Newidiadau i’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Y newidiadau pennaf i’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yw:

  • bydd y nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn yn gostwng i 30
  • bydd dim ond un blwyddyn gymhwyso o gyfraniadau , wedi eu talu neu eu credydu yn rhoi hawliau i rhywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • bydd cyfraniadau drwy waith taladwy a chyfraniadau credyd yn cael eu trin yn gyfartal wrth adeiladu hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn codi yn unol ag enillion yn hytrach na phrisiau (o 2012 ar y cynharaf)

Cewch wybod mwy am y newidiadau i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Newidiadau i Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei symleiddio. Bydd yn darparu cyfradd unffurf gwerth £1.50 yr wythnos (yn arian 2007/08) am bob blwyddyn cymhwyso wedi’i adeiladu i fyny (o 2012 ar y cynharaf)

Cewch wybod mwy am y newidiadau yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth

Newidiadau i ofalwyr

Bydd credyd newydd - a fydd yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ­ ar gael i bobl yn dwyn plant i fyny ac yn gofalu am bobl anabl.

Cewch wybod mwy am y credyd gofalwr newydd

Newidiadu i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, yr oed cynharaf y gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth yn codi. Bydd y newid cyntaf yn effeithio ar ferched wedi’u geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 ond cyn 6 Ebrill 1959 ac wedi bod mewn ddeddfwriaeth ers 1995. Bydd yr ail newid, yn y Ddeddf Pensiynau 2007, yn effeithio ar ddynion a merched wedi’u geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1959.

Cewch wybod mwy am y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth a pha bryd y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Cyfrifon Personol a newidiadau i bensiynau galwedigaethol

Aeth Mesur i fewn i’r Senedd ar 5 Rhagfyr i gymryd mesurau a gynigwyd ymlaen yn bennaf wedi eu hanelu at ddiwygio y system pensiynau galwedigaethol.

Mae newidiadau hefyd wedi’u cynllunio i annog cyfranogi helaethach mewn cynlluniau pensiynau galwedigaethol, O 2012 mae cynlluniau y bydd pob cyflogai cymwys sydd heb bensiwn da yn cael eu cofrestru’n awtomatig i un ai cynllun pensiwn presennol neu gyfrwng newydd o gynilo a elwir yn gyfrif personol. I annog cymryd rhan, bydd cyfraniadau pensiwn cyflogai yn cael eu hatodi gan gyfraniadau gan gyflogwyr a rhyddhad treth.

Cewch wybod mwy am y newidiadau hyn