Cwestiynau a ofynir yn aml
- Pensiynwyr Presennol neu'r rheini a ddylai ymddeol cyn 6 Ebrill 2010
- Pensiynwyr y dyfodol - y rheini sy'n ymddeol ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny
Pensiynwyr presennol a phobl fydd yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 (dynion wedi’u geni cyn 1945 a merched wedi’u geni cyn 6 Ebrill 1950)
- Byddaf yn cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010; a fydd y newidiadau yn effeithio ar faint o Bensiwn y Wladwriaeth y byddaf yn ei gael?
- Rwy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 ond fydd fy Mhensiwn y Wladwriaeth yn cael ei weithio allan o dan y rheolau newydd os wyf yn gohirio ei hawlio tan ar ôl 6 Ebrill 2010?
- Rwyf eisoes wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a fydd y Cyfrifon Personol yn effeithio arnaf?
- Rwy’n ferch a byddaf yn 60 oed cyn 6 Ebrill 2010, a fyddaf yn dal i allu gwneud cais am fy Mhensiwn y Wladwriaeth o 60 oed?
- Clywais na allaf gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os nad oes gennyf beth bynnag 25% o’r cyfraniadau sydd eu hangen am y swm llawn oherwydd byddaf yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010. Ydi hyn yn gywir?
- Rwy’n cael Cymhorthdal Incwm ar hyn o bryd a byddaf yn 60 oed cyn 6 Ebrill 2010. A fydd y dyddiad y bydd hawl gennyf i gael fy mhensiwn y wladwriaeth yn newid?
- Rwy’n derbyn Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol. A fydd hwn yn dod i ben ar 6 Ebrill 2010?
- Rwy’n briod ac yn cael Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol ar hyn o bryd. A fyddaf yn waeth allan pan fydd Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol yn gorffen yn gyfangwbl yn 2020?
- Rwy’n wraig briod. Rwyf dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn barod ond heb dalu digon o gyfraniadau i gael pension. Nid yw fy ng_r yn bwriadu hawlio ei bensiwn tan fydd yn 70. Pa bryd allaf hawlio pensiwn drwy ddefnyddio ei gyfraniadau ef?
- Pam na fydd fy mhensiwn yn cael ei uwchraddio yn unol ag enillion tan 2012 ar y cynharaf?
Byddaf yn cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
cyn 6 Ebrill 2010; a fydd y newidiadau yn effeithio ar faint o Bensiwn
y Wladwriaeth y byddaf yn ei gael?
Os ydych eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, neu os disgwylir i chi
gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 ni fydd y newidiadau
i’r ffordd y cyfrifir Pensiynau’r Wladwriaeth yn effeithio
arnoch. Bydd hawl gennych i wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth o dan
y system bresennol o 65 oed i ddynion a 60 oed i ferched. Caiff y broses
o godi enillion Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ei gyflwyno i bob pensiynwr
o 2012 ar y cynharaf.
Rwy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 ond fydd fy Mhensiwn y Wladwriaeth yn cael ei weithio allan o dan y
rheolau newydd os wyf yn gohirio ei hawlio tan ar ôl 6 Ebrill 2010?
Na. Mae’r rheolau newydd yn berthnasol yn unig i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010. Os ydych y gohirio hawlio eich
pensiwn efallai y gallech gael swm uwch neu cyfandaliad pan fyddwch yn ei hawlio’n hwyrach.
Rwyf eisoes wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a fydd y Cyfrifon Personol yn effeithio arnaf?
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond o dan 75 ac yn gweithio ac eisiau cynilo yna gallwch ofyn i’ch cyflogwr i’ch cofrestru chi i fewn i gynllun.
Os dewisiwch gofrestru, cewch gyfraniad pensiwn gan eich cyflogwr hefyd.
Rwy’n ferch a byddaf yn 60 oed cyn 6 Ebrill 2010, a fyddaf yn dal i allu gwneud cais am fy Mhensiwn y Wladwriaeth o 60 oed?
Gallwch. Gan y byddwch yn 60 oed cyn 6 Ebrill 2010 byddwch yn dal i allu gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth yn 60 oed.
Clywais na allaf gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth os nad oes gennyf beth bynnag 25% o’r cyfraniadau sydd eu hangen
am y swm llawn oherwydd byddaf yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010. Ydi hyn yn gywir?
Ydy, os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 caiff eich Pensiwn y Wladwriaeth ei weithio allan yn ôl y rheolau cyfredol.
Rwy’n cael Cymhorthdal Incwm ar hyn o bryd a byddaf yn 60 oed cyn 6 Ebrill 2010. A fydd y dyddiad y bydd hawl gennyf i gael fy
mhensiwn y wladwriaeth yn newid?
Ni fydd yr oedran y bydd hawl gennych i gael Pensiwn y Wladwriaeth yn newid. Bydd hawl gan ddynion a merched sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6
Ebrill 2010 neu cyn hynny i wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth o dan y rheolau presennol; 65 oed i ddynion a 60 oed i ferched. Gallwch hefyd wneud cais am
Gredyd Pensiwn pan fyddwch yn 60 oed.
Rwy’n derbyn Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol. A fydd hwn yn dod i ben ar 6 Ebrill 2010?
Os ydych yn cael Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol yn barod pan mae’r rheolau yn newid, byddwch yn gallu ei gadw am amser o dan reolau trawsnewidiol. Bydd yn dod
i ben pan na fydd yr amodau cymhwyso yn cael eu bodloni mwyach (er enghraifft, fod y person rydych yn derbyn Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol yn dechrau cael
eu Pensiwn y Wladwriaeth eu hunan) neu ar yr hwyraf , yn 2020.
Rwy’n briod ac yn cael Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol ar hyn o bryd. A fyddaf yn waeth allan pan fydd Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol
yn gorffen yn gyfangwbl yn 2020?
Bydd o gwmpas tri chwarter o’r Ychwanegiadau Oedolyn Dibynnol mewn taliad yn Ebrill 2010 wedi dod i ben cyn 2020, er enghraifft, oherwydd fod y person mae’r
Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol amdano yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth eu hunan. Os nad dyma yw’r achos i chi, byddwch yn cael gwybod am unrhyw fudd-daliadau
eraill efallai y gallech gael pan mae eich Ychwanegiad Oedolyn Dibynnol yn dod i ben yn 2020.
Rwy’n wraig briod. Rwyf dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn barod ond heb dalu digon o gyfraniadau i gael pension. Nid yw fy ng_r yn
bwriadu hawlio ei bensiwn tan fydd yn 70. Pa bryd allaf hawlio pensiwn drwy ddefnyddio ei gyfraniadau ef?
Ar hyn o bryd ni allwch hawlio eich pensiwn tan iddo hawlio ei bensiwn ef, ond mae’r rheolau yn newid o 6 Ebrill 2010. Os yw’n 65 (Oedran Pensiwn y Wladwriaeth)
cyn hynny, gallwch hawlio eich pensiwn o 6 Ebrill 2010. Os yw’n 65 ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, gallwch hawlio pan mae’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
p’un ai os yw’n dewis hawlio ei Bensiwn y Wladwriaeth ai peidio.
Pam na fydd fy mhensiwn yn cael ei uwchraddio yn unol ag enillion tan 2012 ar y cynharaf?
Mae’r newid hwn wedi’i amseru i gyd-ddigwydd gyda ffactorau economaidd eraill yn gysylltiedig â pecyn cyfan o Ddiwgio Pensiynau. Fodd bynnag, os ydych ar
incwm isel efallai y gallech gael Credyd Pensiwn. Mae’r lleiafswm gwrantedig safonol mewn Credyd Pensiwn wedi ei uwchraddio’n barod yn unol ag enillion a
bydd hyn yn parhau.
Pensiynwyr y dyfodol pobl yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010 (dynion wedi’u geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1945 a merched wedi’u geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950)
- Rwy’n ferch a byddaf yn 60 ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010. Pa bryd allaf gael fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
- Rwy’n ymddeol yn fuan ar ôl 2012. A fyddaf yn cael fy nghrofrestru i Gyfrif Personol?
- Rwyf wedi clywed y bydd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi i ddynion a merched?
- A fyddaf yn gymwys i Daliad Tanwydd Gaeaf?
- Pam na fydd fy mhensiwn yn cael ei godi yn unol ag enillion hyd at 2012 ar y cynharaf?
- Rwy'n deall y bydd Diwygio Pensiynau yn newid nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen i gronni Pensiwn y Wladwriaeth llawn, sut y bydd hyn yn effeithio arnaf?
- Rwyf wedi adeiladu i fyny dros 30 o flynyddoedd o gyfraniadau taladwy. A fyddaf yn gallu cael ad-daliad?
- Byddaf yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2010. A oes angen i mi gael credydau / cyfraniadau sy’n cyfateb i 25% o’m bywyd gwaith i fod yn gymwys i gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?
- Rwy’n ferch yn cael Lwfans Ceisio Gwaith a byddaf yn 60 oed ar ôl 6 Ebrill 2010. A fyddaf yn dal i gael fy Mhensiwn y Wladwriaeth (ac yn gallu cael Credyd Pensiwn) pan fyddaf yn 60?
- Mae fy ngwraig a mi yn cael Budd-dal Analluogrwydd. Rwyf wedi clywed bod oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi ac y bydd hyn yn effeithio arnom gan y disgwylir i'r ddau ohonom gyrraedd yr oedran Pensiwn y Wladwriaeth presennol ar ôl 6 Ebrill 2010. A yw hyn yn wir?
- Byddaf yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ym mis Awst 2011. Bydd fy ngwraig yn 50 oed (yn 2011). Mae bob amser wedi bod yn ddibynnol arnaf yn ariannol. A fydd hawl gennyf i gael Cynnydd Dibyniaeth Oedolion (ADI)?
- Rwy’n aros adref i edrych ar ôl y plant. Mae fy ng_r yn gweithio. Mae’r Lwfans Plant yn ei enw ef. A fyddaf yn cael credydau tuag at fy mhensiwn?
Rwy’n ferch a byddaf yn 60 ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010. Pa bryd allaf gael fy Mhensiwn y Wladwriaeth?
Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi mewn camau o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. O 2020 bydd yr un fath ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth dynion.
Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi’n raddol wedyn o 65 i 68 rhwng 2024 a 2046. Gallwch gael gwybod eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth drwy ddefnyddio
cyfrifianell oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Rwy’n ymddeol yn fuan ar ôl 2012. A fyddaf yn cael fy nghrofrestru i Gyfrif Personol?
Os yw eich cyflogwr yn darparu cynllun pensiwn efallai y cewch eich cofrestru i fewn i’r cynllun hwnnw neu i gyfrif personol. Byddwch yn gallu eithro allan os
ydych yn dymuno. Byddwch yn gallu cyfranu i’r cynllun cyfrifon personol tan fyddwch yn 75 os ydych yn parhau i weithio.
Rwyf wedi clywed y bydd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
yn codi i ddynion a merched?
Mae hynny’n wir. Bydd oedan Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a
merched yn codi’n raddol o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046.
Ond cyn hynny bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi i
fod yr un peth â dynion (65 oed). Cafodd hyn ei wneud yn ddeddfwriaeth
yn Neddf Pensiynau 1995. Mae’n golygu y bydd oedran Pensiwn y
Wladwriaeth i ferched yn codi’n raddol o 60 oed i 65 oed rhwng
2010 a 2020.
A fyddaf yn gymwys i Daliad Tanwydd Gaeaf?
Tan 2009, yr oedran isaf i gael taliad Tanwydd Gaeaf yw 60. Rhwng 2010 a 2020 bydd hyn yn codi mewn camau i 65 i ddynion a merched ill dau.
Pam na fydd fy mhensiwn yn cael ei godi yn unol ag enillion hyd at 2012 ar y cynharaf?
Mae’r newid wedi’i amseru i gyd-fynd â ffactorau economaidd
eraill sy’n gysylltiedig â’r pecyn cyffredinol o Ddiwygio
Pensiynau. Fodd bynnag os ydych ar incwm isel efallai y gallech gael
Credyd Pensiwn. Mae isafswm gwarantedig safonol mewn Credyd Pensiwn
eisoes wedi’i godi yn unol ag enillion a bydd hyn yn parhau.
Rwy'n deall y bydd Diwygio Pensiynau yn newid
nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen i gronni Pensiwn y Wladwriaeth
llawn, sut y bydd hyn yn effeithio arnaf?
Wrth i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu
ar ôl hynny dim ond 30 o flynyddoedd cymhwyso fydd eu hangen arnoch
i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn.
Rwyf wedi adeiladu i fyny dros 30 o flynyddoedd o gyfraniadau taladwy. A fyddaf yn gallu cael ad-daliad?
Dim ond pobl sydd wedi talu cyfraniadau gwirfoddol ar neu ar ôl 25 Mai 2006, sy’n disgwyl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010,
ac nad oeddynt yn gwybod am y newidiadau Pensiwn y Wladwriaeth pan oeddynt yn talu’r cyfraniadau gwirfoddol, efallai fydd yn gallu hawlio ad-daliad. Os ydych
yn meddwl eich bod yn gymwys i hawlio ad-daliad dylech ysgrifennu at Cyllid a Thollau EM.
Nid yw pobl sydd wedi talu mwy na 30 o flynyddoedd o gyfraniadau Dosbarth 1 neu di-wirfoddol arall yn gymwys i hawlio ad-daliad.
Byddaf yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2010. A oes angen i mi gael credydau / cyfraniadau sy’n cyfateb
i 25% o’m bywyd gwaith i fod yn gymwys i gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?
Nac oes, bydd angen 30 o flynyddoedd cymhwyso ar ddynion a merched sy’n
cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 6 Ebrill 2010 (yn hytrach na
39 i ferched a 44 i ddynion fel ar hyn o bryd) i gael Pensiwn sylfaenol
y Wladwriaeth llawn. Os nad oes gennych y 30 mlynedd llawn o gyfraniadau
wedi’u talu neu eu credydu i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn,
bydd pob blwyddyn sydd gennych yn rhoi un rhan o dair ar ddeg o’r
raddfa lawn o Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth i chi.
Rwy’n ferch yn cael Lwfans Ceisio Gwaith a byddaf yn 60 oed ar ôl 6 Ebrill 2010. A fyddaf yn dal i gael fy Mhensiwn y Wladwriaeth
(ac yn gallu cael Credyd Pensiwn) pan fyddaf yn 60?
Na, ni fydd gennych hawl i’ch Pensiwn y Wladwriaeth (nac yn gallu hawlio Credyd Pensiwn) pan fyddwch yn 60. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched a
anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 yn codi mewn camau o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. (Hyn yw’r oed hefyd y gall pobl hawlio Credyd Pensiwn). Bydd yn codi eto
i ddynion a merched ill dau o 65 i 68 rhwng 2024 a 2046. Gallwch gael gwybod pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth drwy ddefnyddio’r
cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd budd-daliadau fel Lwfans Ceisio Gwaith ar gael tan oedran newydd Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae fy ngwraig a mi yn cael Budd-dal Analluogrwydd.
Rwyf wedi clywed bod oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi ac y bydd
hyn yn effeithio arnom gan y disgwylir i'r ddau ohonom gyrraedd yr oedran
Pensiwn y Wladwriaeth presennol ar ôl 6 Ebrill 2010. A yw hyn yn wir?
Ydy, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi o 60 oed i 65 oed i ferched
rhwng 2010 a 2020 a bydd yn codi’n raddol eto i 68 oed i ddynion
a merched rhwng 2024 a 2046. Bydd budd-daliadau fel Budd-dal Analluogrwydd
neu Lwfans Ceisio Gwaith yn parhau i fod ar gael hyd nes y byddwch yn
cyrraedd yr oedran Pensiwn y Wladwriaeth newydd.
Gallwch gael gwybod pa bryd y bydd y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth drwy ddefnyddio’r cyfrifianNell oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Byddaf yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ym
mis Awst 2011. Bydd fy ngwraig yn 50 oed (yn 2011). Mae bob amser wedi
bod yn ddibynnol arnaf yn ariannol. A fydd hawl gennyf i gael Cynnydd
Dibyniaeth Oedolion (ADI)?
Na fydd, ni fydd hawl gennych i gael ADI os byddwch yn cyrraedd oedran
Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 2010, hyd yn oed os bydd
eich gwraig yn dal i fod yn ddibynnol arnoch yn ariannol ac nad oes
ganddi enillion. Fodd bynnag, os byddwch chi a’ch gwraig ar incwm
isel efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn.
Rwy’n aros adref i edrych ar ôl y plant. Mae fy ng_r yn gweithio. Mae’r Lwfans Plant yn ei enw ef. A fyddaf yn cael credydau tuag at fy mhensiwn?
Na. Bydd y credydau yn mynd i’r person sy’n cael y Lwfans Plant. Gan fod eich g_r yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn barod, ni fydd y credydau yn
gwella ei bensiwn. Dylech feddwl am newid eich trefniadau fel eich bod yn cael y Lwfans Plant a’r credydau newydd.
Er nad yw’r credydau newydd yn dechrau tan 2010 gallech gael Diogelwch Cyfrifioldebau Cartref cyn hynny os yw’r Lwfans Plant yn eich enw chi. Mae Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn cael ei roi yn unig am flynyddoedd treth llawn felly byddwch angen cael y Lwfans Plant yn eich enw chi o fewn tri mis o ddechrau blwyddyn treth i’w gael am y flwyddyn honno.


