Ddeddf Pensiynau 2007
Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yw’r incwm ymddeol y gallwch hawlio unwaith rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os ydych wedi talu neu cael eich trin fel eich bod wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu wedi derbyn credydau yn ystod eich bywyd gwaith. Mae newidiadau allweddol i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynnwys:
- gostwng y nifer o flynyddoedd cymhwyso sydd angen i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i 30 i bobl fydd yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010
- bydd unrhyw nifer o flynyddoedd cymhwyso yn rhoi hawl i beth bynnag rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth
- bydd pobl sydd gyda llai na 30 o flynyddoedd cymhwyso yn cael 1/30 o’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn am bob blwyddyn cymhwyso sydd ganddynt
- newid y system o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref gyda credyd Yswiriant Gwladol wythnosol newydd i bobl yn gofalu am blant neu bobl sy’n ddifrifol anabl
- a thrawsnewid blynyddoedd gorffennol o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref i flynyddoedd o gredydau.
Cewch wybod mwy am hyn - codi Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unol ag enillion, yn hytrach na phrisiau, sy’n golygu y dylai godi’n gynt pob blwyddyn na mae yn ei wneud nawr.. (Mae’r newid hwn yn digwydd o 2012 ar y cynharaf a 2015 ar yr hwyraf, ac yn berthnasol hefyd i bobl sy’n cael eu pensiwn y wladwriaeth ar hyn o bryd neu’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010)
Ail Bensiwn y Wladwriaeth
Mae’r Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu’n ychwanegol i’r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Mae’r pension hwn yn cael ei adnabod hefyd fel Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Mae wedi cymryd lle y Cynllun Pensiwn Y Wladwriaeth ar Sail Enillion yn Ebrill 2002. Mae newidiadu allweddol i Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys:
- gadael i bobl gyfuno cyfraniadau Yswiriant Gwladol o enillion mewn rhan o flwyddyn dreth gyda credydau o rannau eraill o’r un flwyddyn er mwyn ennill blwyddyn gymhwyso i Ail Bensiwn y Wladwriaeth
- ei gwneud hi’n hi’n haws i bobl sy’n gofalu am bobl sy’n ddifrifol anabl neu blant
Cewch wybod mwy am hyn - newid y ffordd mae’n adeiladu fel ei fod yn y dyfodol yn darparu ychwanegiad cyfradd unffurf i’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
- Yn gyntaf, i bobl yn ennill i fyny at £13,000 y flwyddyn neu yn cael credydau am Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, bydd yn dechrau adeiladu cyfradd unffurf o £1.50 yr wythnos ( y ddau ffigwr am arian 2007/08) am bob blwyddyn gymhwyso. Mae ‘r union flwyddyn y bydd hyn yn dechrau eto i’w benderfynu ond bydd rhwng 2012 a 2015. Ar ôl hynny, bydd yr elfen ar sail enillion presennol yn cael ei dynnu’n ôl yn raddol fel fod pobl yn gallu adeiladu hawl ar sail hollol unffurf erbyn tua 2030 neu’n fuan ar ôl hynny.
Mae yn bosibl eithro allan o’r Ail Bensiwn y Wladwriaeth os ydych mewn cynllun pensiwn preifat sy’n cyfarfod rhai amodau arbennig. O 2012 ar y cynharaf, ni fydd eithro allan i fewn i gynllun pensiwn preifat ar sail cyfraniad diffiniedig yn bosibl
Cewch wybod mwy am eithro allan o’r Ail Bensiwn y Wladwriaeth
Rhieni a gofalwyr
Bydd gweithio a gofalu yn cael ei gydnabod yn gyfartal yn y cymllun Pensiwn y Wladwriaeth diwygiedig, gyda mwy o ferched a gofalwyr yn gymwys i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn ac i Ail Bensiwn y Wladwriaeth.
O 6 Ebrill 2010, bydd mwy o bobl sydd ddim yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gallu adeiladu hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth drwy gredyd Yswiriant Gwladol wythnosol newydd. Y bobl fydd â hawl i’r credydau newydd hyn yw:
- pobl sy’n cael Lwfans Plant am blant i fyny i 12 oed
- gofalwyr maeth cymeradwy
- gofalu am beth bynnag 20 awr yr wythnos am bobl sy’n cael Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl (yr elfen gyfradd ganol neu uwch) neu Lwfans Gweini Cyson
- gyda cyfrifoldebau gofal am beth bynnag 20 awr yr wythnos am bobl eraill sydd angen gofal. Mae’r manylion yn cael eu datblygu o hyd.
Bydd pobl sy’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am ran o flwyddyn dreth ac yn cymhwyso am gredydau newydd am weddill y flwyddyn dreth yn gallu cyfuno’r ddau i ennill blwyddyn cymhwyso am Bensiwn y sylfaenol y Wladwriaeth ac Ail Bensiwn y Wladwriaeth
Bydd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref, sydd ddim ond yn cael ei roi am flynyddoedd treth llawn, yn cael ei ddiddymu. Bydd blynyddoedd gorffennol o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (i fyny i uchafswm o 22) yn cael ei drosi yn flynyddoedd o gredydau a fydd yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw’r oedran cynharaf y gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth. Ar hyn o bryd mae’r oedran y gall dynion a merched hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol. Gall dynion gael eu Pensiwn y Wladwriaeth o 65 ond, tan 6 Ebrill 2010, gall merched ei gael yn 60.
Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi i 65 fel fod oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr un fath i ddynion a merched ill dau erbyn 2020. Bydd y newid hwn yn dod i fewn yn raddol o 2010.
Mae’r Ddeddf Pensiynau 2007 yn darparu i’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched ill dau i godi o 65 i 68 mewn camau rhwng 2024 a 2046.
I gael gwybod o pa bryd y bydd gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, defnyddiwch ein cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Newidiadau eraill Pensiwn y Wladwriaeth
Ni fydd pobl sy’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010 yn gallu hawlio arian ychwanegol am eu priod neu bartner sifil, Bydd pobl sy’n cael yr arian ychwanegol hwn (sy’n cael ei alw’n Codiad Oedolyn Dibynnol) cyn 6 Ebrill 2010 yn cael ei gadw, ond tan 2020 yn unig ar yr hwyraf.
O 6 Ebrill 2010, bydd gwraig briod neu wedi gwahanu sydd angen defnyddio cyfraniadau Yswiriant Gwladol ei g_r at ei phensiwn yn gallu hawlio hwn unwaith y bydd hi a’i g_r wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ni fydd raid iddi ddisgwyl tan y bydd ef yn hawlio ei bensiwn mewn gwirionedd. (Bydd yr un peth yn berthnasol i _r priod neu bartner sifil sydd a’u gwraig neu bartner sifil wedi eu geni ar ôl 5 Ebrill 1950, Os ydynt angen defnyddio cyfraniadau eu gwraig neu bartner sifil).


