Credyd Pensiwn

Ateb cwestiynau eraill

Dim ond swm bach rwyf â hawl iddo. Pam ddylwn i drafferthu gwneud cais?

Er mai dyfarniad am swm bach rydych wedi’i gael, efallai gall olygu y gallwch gael help ychwanegol gyda phethau eraill fel rhent neu Treth Cyngor.

Pryd gallaf wneud cais?

Gallwch wneud cais hyd at bedwar mis cyn y dyddiad rydych eisiau dechrau cael Credyd Pensiwn. Gwnewch gais cyn gynted rydych yn meddwl efallai eich bod â hawl. Fodd bynnag, gallwch hefyd wneud cais hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad rydych yn dymuno dechrau ei gael. Er enghraifft, os yw eich penblwydd yn 60 ar 10 Rhagfyr 2008 , ac rydych eisiau dechrau cael eich Credyd Pensiwn o’r dyddiad hwnnw, gallwch wneud cais ar unrhyw amser rhwng 10 Awst 2008 a 9 Mawrth 2009.

Os ydych eisiau Credyd Pensiwn i ddechrau o ddyddiad yn y gorffennol neu’r dyfodol, mae’n rhaid i chi ddweud wrthym pan rydych yn gwneud cais. Os ydych yn gwneud cais dros y ffôn, gallwn fynd trwy hyn gyda chi. Os ydych yn gofyn am ffurflen gais, mae mwy o wybodaeth yn y daflen rydym yn anfon gydag hi a fydd yn eich helpu.

Os hoffech gael amcangyfrif o faint o Bensiwn Credyd Pensiwn efallai gallwch dderbyn gallwch ddefnyddio y gyfrifiannell Credyd Pensiwn

Os nad Saesneg neu Gymraeg yw fy iaith gyntaf, sut byddaf yn gallu gwneud cais?

Os hoffech wneud cais am Gredyd Pensiwn ac nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf gallwch ein ffonio am ddim ar 0800 99 1234 a gofyn am gyfieithydd. Pan rydych yn ffonio, dylech ddweud mewn Cymraeg neu Saesneg, neu gofyn i ffrind ddweud, eich bod eisiau gwneud cais mewn iaith arall. Bydd un o’n staff a chyfieithydd yn eich galw yn ôl ac eich helpu i wneud cais.

I wneud cais am Gredyd Pensiwn ffoniwch 0800 99 1234

Mae llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00am-8.00pm